O Arglwydd gwynfydedig

O! Arglydd gwynfydedig
  O'th gariad rhoddaist Ti
Dy air ysbrydoledig
  Er mwyn ein haddysg ni;
O! dyro nerth i'w wrando
  Yn ddyfal trwy ein hoes,
A darllen beunydd ynddo
  Am rinwedd Gwaed y Groes.

Cymhwysa ni â'th Ysbryd
  I chwilio'r Gair yn awr,
Am olau'i gyfarwyddyd
  Ar lwybra'r anial mawr;
A nertha ni i'w ddysgu
  Fel annwyl Air ein Tad,
Fel gallo'n henaid dynnu
  O'i wersi lawn fwynhad.

Diddanwch ac amynedd
  Dy gysegredig Air
A'n cynnal hyd y diwedd
  Trwy bob cystuddiol bair;
Yn llaw bendigaid Obaith
  Y Bywyd i barhau,
Ymlaen yr awn â'n hymdaith
  Nes dyfod i'w fwynhau.
William Morgan (Penfro) 1846-1918

Tonau [7676D]:
Ewing (Alexander Ewing 1830-95)
Talyllyn (alaw Gymreig)

O blessed Lord
  Of thy love Thou gavest
Thy inspired word
  For the sake of our education;
Oh grant strength to hear it
  Devotedly throughout our lifetime,
And daily read in it
  About the merit of the Blood of the Cross.

Qualify us with thy Spirit
  To search the Word now,
For light to train
  On the paths of the great desert;
And strengthen us to learn it
  Like the dear Word of our Father,
Thus would our soul be able to draw
  From its lessons full enjoyment.

The comfort and patience
  Of thy holy Word
Will support us until the end
  Through every cauldron of affliction;
In the hand of blessed hope
  Of the Life continuing,
Forward we will go with our march
  Until coming to enjoy it.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~