O Arglwydd Iôr, boed clod i ti Am gofio eto'n daear ni Â'th fendith hael ei dawn: Diodaist hi ag afon Duw, Fe'i gwisgaist â phrydferthwch byw, Gan lwyr aeddfedu'r grawn. Tydi yw Tad y gwlith a'r glaw, A'r haul sy'n gwasgar ar bob llaw Hyfrydwch dros y wlad: Sisiala'r awel d'enw di, A'i seinio a wna'r corwynt cry', A phwy ni'th fawl, O Dad? Fe gân pob tymor, Arglwydd Iôr, Dy glod yn glir ar dir a môr, Ac una'r ddaear faith: A ninnau mwy ymddiried wnawn Yng ngrym dy gariad, Dad pob dawn, Nes cyrraedd pen y daith.J T Job 1867-1938 Perorydd yr Ysgol Sul 1915
Tonau [886D]: |
O Sovereign Lord, praise be to thee For remembering still our earth With blessing of generous gift: Thou didst water it with God's river, Thou didst clothe it with living beauty, By completely maturing the grain. Thou art the Father of the dew and the rain, And the sun which disperses on every hand The delight across the land: The breeze whispers thy name, And sound it does the strong hurricane', And who does not praise thee, O Father? Every season sings, Sovereign Lord, Thy praise clearly on land and sea, And the vast earth unites: And we evermore will trust In the force of thy love, Father of every gift, Until reaching the end of the journey.tr. 2010 Richard B Gillion |
|