O Arglwydd Ior! anfeidrol yw Dy gariad mawr at ddynol ryw - Ti dremaist ffordd i gadw'n fyw Y gwaela' o honynt oll: Trwy waed yn rhad, mae'r ffordd yn rhydd I ganol nef, fy enaid prudd; O! gwyn ei fyd pob perchen ffydd, Caiff gario'r dydd heb goll. O flaen y fainc anturia'n hy, Yn enw'r Un sy'n eiriol fry, A faeddodd trosof uffern ddu, Fe brynodd immi'r ne': Efe yw'r Drws i'r bywyd da, A'm Ffordd i maes o'r byd a'i bla, Fy Noddfa glyd a'm Gorphwysfa Drag'wyddol yw efe. Wel, dyma fy Iachawdwr mawr - Am dano caned nef a llawr; Pa dafod ddichon dewi'n awr, Ga'dd brawf o'i werthfawr hedd? Digonedd pob digonedd yw, Glendid a thegwch dynol ryw, Bywyd a nerth fy enaid byw - Fy Nuw tu draw i'r bedd. Mae'r dyddiau hir i lawenhau, O awr i awr yn agoshau; Fe dderfydd hyn o fywyd brau - Dianga' i'm dedwydd nyth; Lle ni ddaw pechod, byd, na chnawd, I aflonyddu f'enaid tlawd, Yn ngwedd f'anwylaf henaf Frawd, Caf ymddigrifo byth.
Morgan Rhys 1716-79 Tôn [886D]: Arvon (<1875)
gwelir: |
O Sovereign Lord! immeasurable is Thy great love towards human kind - Thou didst arrange a way to keep alive The worst of them all: Through blood freely, the way is open To the centre of heaven, my sad soul, O blessed is every possessor of faith, He will carry the day without loss. Before the throne I will venture boldly, In the name of the One who is interceding above, And who beat for me black hell, He purchased for me heaven: He is the Door to the good life, And my way out of the world and its plague, My secure Refuge and my eternal Resting-place is he. See, here is my great Saviour - About him let heaven and earth sing; What tongue can be silent now, That got an experience of his precious peace? The sufficiency of every sufficiency he is, The purity and fairness of human kind, The life and strength of my living soul - My God beyond the grave. The long days to rejoice are, Hour by hour drawing near; This fragile life shall pass away - I will escape to my happy nest; Where neither sin, world nor flesh shall come, To disturb my poor soul, In the presence of my most beloved, oldest Brother, I will get to take delight forever. tr. 2017 Richard B Gillion |
|