O Arglwydd Ior, anfeidrol yw Dy gariad rhad at ddynolryw, Yn rhoi dy anwyl Fab dy hun I farw dros bechodau dyn. Fe dalodd Iesu'n dyled mawr, Trwy ddiodde'r llīd rhwng nef a llawr; O dan ei fron daeth dw'r a gwaed A meddyginiaeth ynddo gaed. Maddeuant rhād yr Iesu a roes, Pan oedd e'n marw ar y groes; Agorodd ef pan rwygai'r llen, Holl euraidd byrth y nefoedd wen. Nis gall angylion nef i nef, Fynegu maint ei gariad Ef, Na'u holl ganiadau draethu ma's Anfeidrol ddyfnder dwyfol ras. [Ni all angylion nef i gyd Fynegu maint dy gariad drud, Ni all holl ganiadau draethu maes Anfeidrol ddyfnder dwyfol ras.] Golch ni o Dduw yn ngwaed yr Oen, A'th heddwch pur iachā ein poen; Glanā ni'n llwyr, a gwrando'n llef, A'th foli wnawn fyth yn y nef. Rhoed pob rhyw enaid dan y rhod I'th enw mawr gynhesol glod; I'r Oen a'n prynodd ar y pren Y byddo moliant byth - Amen.Diferion y Cyssegr 1804 efel. J Hughes o emyn M Rhys
Tōn [MH 8888]: gwelir: O Arglwydd Ior andfeidrol yw [8886D] |
O Sovereign Lord, immeasurable is Thy free love towards humankind, Giving thy own beloved Son To die for the sins of man. Jesus paid our great debt, Through suffering the wrath between heaven and earth; From under his breast came water and blood And treatment is had in him. Free forgiveness Jesus gave, When he was dying on the cross; He opened, when tearing the curtain, All the golden portals of bright heaven. Not all the angels of the heaven of heaven, can Express the extent of His love, Nor can all their songs set out The immeasurable depth of divine grace. [Not all the angels of heaven can Express the extent of thy precious love, Not all songs can set out The immeasurable depth of divine grace.] Wash us, O God, in the blood of the Lamb, With thy pure peace heal our pain; Cleanse us completely, and hear our cry, And praise thee we shall forever in heaven. Let every kind of soul under the sky give To thy great name, warm acclaim; To the Lamb who redeemed us on the tree Be praise forever - Amen.tr. 2016 Richard B Gillion |
|