O Arglwydd Iôr haelionus yw

(Gwerth Y Gair)
O Arglwydd Iôr, haelionus yw
Dy ddoniau da i ddynolryw:
  Rho'ist i ni etifeddiaeth wych,
  Drwy roi dy air
      o'n blaen fel drych.

Cawn, wrth ei chwilio,
    drysor drud,
O werth sydd fwy
    na pherlau'r byd;
  Mwy melus yw, mae'n wir digêl,
  Nag yw diferion
      diliau mêl.

Wrth in' ei ddarllen, Arglwydd cu,
Rho fendith fawr
    o'th nefoedd fry,
  A gwna ni'n ffyddlon
      drwy ein hoes
  I ddilyn Crist, gan ddwyn ei groes.
Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau (Samuel Roberts) 1841

[Mesur: MH 8888]

(The Value of the Word)
O Sovereign Lord, bountiful are
Thy good gifts to humankind:
  Thou gavest us a brilliant inheritance,
  Through giving thy word
      before us like a mirror.

We may get, by searching for it,
    precious treasure,
Of value which is more
    than the world's pearls;
  Sweeter it is, it is truly unconcealed,
  Than are the drippings
      of the combs of honey.

By our reading of it, dear Lord,
Give a great blessing
    from thy heavens above,
  And make us faithful
      throughout our lifespan
  To follow Christ, by taking up his cross.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~