O! Arglwydd Iôr! mor aml yw Dy ddoniau rhâd i ddynol-ryw, Er ein gwrthryfel ni; Gan frasder wele'th lwybrau'n llawn, A'th ffyrdd sydd yn fendithiol iawn; Trugarog ydwyt Ti. A choron o'th ddaioni'n llon, Coronaist Ti y flwyddyn hon, Ag addfed ffrwyth di-ri'; Y maes, y llwyn, a'r anial dir A wisgaist â hyfrydwch clir; Trugarog ydwyt Ti. O! arwain ni â'th Ysbryd Glân, I'th foli â soniarus gân, Can's gweddus yw i ni; A boed ein llais o hyd, a'n llef, Am gael o fara pur y nef; Trugarog ydwyt Ti.John Phillips (Tegidon) 1810-77
Tonau [886D]: |
O Lord God, how manifold are Thy gracious gifts to human-kind, Despite our rebellion; With fatness see thy paths full, And thy ways are greatly blessing; Merciful art Thou. With the crown of thy goodness cheerfully, Thou didst crown this year, With mature fruit without number; The field, the grove, and the desert land Thou didst clothe with clear loveliness; Merciful art Thou. O lead us with thy Holy Spirit, To praise thee with a loud song, Since it is fitting for us; And may our voice, and our cry, always be For getting the pure bread of heaven; Merciful art Thou.tr. 2018 Richard B Gillion |
|