O Arglwydd Trugarhâ!

("Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedig;
a ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni mygi.")
O Arglwydd, trugarhâ,
  Wrth ludw pechadurus;
A lwyr droseddodd lawer gwaith,
  Dy gyfraith anrhydeddus.

Pechadur wyf o'r bru,
  Yn fore gwrthryfelais
Yn erbyn Brenin mawr y nef
  A'i fygwth ef ddirmygais.

Dibrisiais lawer pryd
  D'efengyl hyfryd felus;
Echrydus yw fy mhechod du,
  Fy enaid sy' druenus.

O gwrando, anwyl Grist,
  Bechadur trist yn ochain,
Dan gyfiawn felldith cyfraith Duw,
  A llidiog friwiau llydain.

Dim ond trugaredd rad
  A rydd ryddhad i'm calon;
A gwaed yr Oen all lwyr iachâu
  Fy holl ddoluriau chwerwon.

Fy ngholli byth a gaf,
  A marw wnaf mewn galar,
Heb gael dy ras, a phrofi'th hedd,
  A gwel'd dy wedd roesawgar.

Gosodaf hyder llawn
  Yn dy gyfiawnder perffaith;
Edrychaf tu a'th groes o hyd,
  Yn daer am iechydwriaeth.
Benjamin Francis 1734-99
Hymnau Hen a Diweddar
  - Casgliad y Parch Owen Jones, Periglor Pentrevoelas,
    ag ereill.

Tonau [MBC 6787]:
Glasfryn (John Ambrose Lloyd 1815-74)
Tetton (<1875)

gwelir: Dim ond trugaredd rad

("The sacrifices of God are a broken spirit;
one broken, afflicted, O God, thou wilt not stifle.")
O Lord, have mercy,
  On sinful dust;
Who has completely transgressed many times,
  Thy honourable law.

I sinner I am from the womb,
  In the morning I rebelled
Against the great King of heaven
  And his threat I scorned.

I disparaged many times
   Thy delightful, sweet gospel;
Evident is my black sin,
  My soul is wretched.

Oh listen, dear Christ,
  To a sad sinner groaning,
Under God's condemning, righteous law,
  And broad irate bruises.

Only gracious mercy
  And free liberty to my heart,
And the blood of the Lamb can completely heal
  All my bitter sorrows.

Lost forever I shall be,
  And die I shall in mourning,
Unless I get thy grace, and taste thy peace,
  And see thy welcome countenance.

I shall put full confidence
  In thy perfect righteousness;
I shall look towards thy cross always,
  Intently for salvation.
tr. 2012 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~