O! aros gyda ni, Ein Iôr a'n Ceidwad cu; Os cawn dy wedd nid ofnwn fraw, O! aros gyda ni. Y nos sydd yn nesáu, Ac oriau'r t'wyllwch du: I Ti un wedd yw dydd a nos - O! aros gyda ni. Chwenychu'r ŷm yn fawr Dy bresenoldeb Di, I'n cynorthwyo dan bob croes - O! aros gyda ni. Pan ddaw'n gelynion cas I'n gwrthladd megis llu, Diogel fyddwn dan dy nawdd - O! aros gyda ni. Rho in bob awr o'n hoes Ddiddanwch oddi fry: Yn angau, ac yn nydd y Farn, O! aros gyda ni.Psalmau a Hymnau 1861
Tonau [MB 6686]: |
O stay with us! Our Lord and dear Saviour; If we can have thy presence we will not fear terror, O stay with us! The night is drawing near, And the hours of black darkness: To Thee day and night look the same - O stay with us! We greatly crave Thy presence, To support us under every cross - O stay with us! When our hateful enemies come To attack us like a host, We shall be safe under thy protection - O stay with us! Give us every hour of our lifespan Comfort from above: In death, and in the day of Judgment, O stay with us!tr. 2009 Richard B Gillion |
|