O arwain fi i'th nefol ffyrdd, Yng nghanol temtasiynau fyrdd; Yn awr y brofedigaeth ddu, Anfeidrol Ysbryd, arwain fi. Erchyllaf anial yw y byd, A maglau ei bleserau i gyd; Yn gywir i'r baradwys fry Hyd ffordd cyfiawnder arwain fi. Rhag twyll fy nghalon ddrwg fy hun, Aflendid ei meddyliau blin, Rhag grym ei chynhyrfiadau hi, Yn llwybrau ofn arwain fi. Mae Satan, chwant, a phechod gau, Oll am fy arwain tua gwae; O rhag eu hymdrechiadau hy, Yn ffordd cyfiawnder arwain fi. Pererin wyf, ymhell o'm gwlad, A 'ngolwg ar drigfannau Nhad; Pererin rhwng gelynion lu, Dad pererinion, arwain fi. O arwain fi hyd lwybrau hedd, Yn llawen mwyach hyd fy medd; Trwy'r olaf brofedigaeth ddu, Yn orfoddelus arwain fi. Dros erchyll donnau angau af Dan ganu, os dy gwmni gaf; Nes cyrraedd glan y Ganan gu, O Ior anfeidrol, arwain fi. Hyd ffordd cyfiawnder :: 'R hyd ffordd sancteiddrwydd A 'ngolwg :: A'm golwg Yn llawen mwyach :: Yn ufudd mwyach Dros erchyll donnau :: Trwy ddyfnion dònau 1854 William Thomas (Islwyn) 1832-78
Tonau [MH 8888]: |
O lead me into thy heavenly ways, In the midst of a myriad temptations; In the hour of black testing, Immeasurable Spirit, lead me. A most hideous desert is the world, And snares all its pleasures; Truly to the paradise above Along the road of righteousness lead me. From the deception of my own evil heart, Unclean its grievous thoughts, From the force of its agitations, In the paths of fear lead me. Satan, lust, and false sin, are All trying to lead me towards woe; O from their bold efforts, In the way of righteousness lead me. A pilgrim I am, far from my land, And a view over my Father's dwellings; A pilgrim between a host of enemies, Father of pilgrims, lead me. O lead me along paths of peace, Cheerfully henceforth as far as my grave; Through the last black trial, Jubilantly lead me. Over the hideous waves of death I go Singing, if thy company I have; Until reaching the shore of the dear Canaan, O infinite Lord, lead me. Along the road of righteousness :: Along the road of holiness :: Joyfully henceforth :: Obediently henceforth Over the hideous waves :: Through the deep waves tr. 2016,20 Richard B Gillion |
|