[O/Bydd] Bydd (Yn llawen Seion daeth y dydd)

("Wele dy Frenin yn dyfod")
    O Bydd,
Yn llawen, Seion, - daeth y dydd
It' gael o'r diwedd fyn'd yn rhydd!
  Wele dy Frenin wedi d'od;
Dy holl elynion sydd mewn braw;
  Gwna ôl ei law,
        bydd iddo'r clod.

- - - - -
("A chanu y maent gân Мoses
a chân yr Oen.")
    Bydd, bydd,
Yn llawen Sion, daeth y dydd,
I gael o'r diwedd fyn'd yn rhydd,
  Wele, dy frenhin wedi d'od,
Dy holl elynion sydd mewn braw,
  Gwna ol ei law,
        boed iddo'r clod.

    Fe gân,
Y gwaredigion, fawr a mân,
Drag'wyddol glod i'w priod glân;
  Pan ddelo'r tân i losgi'r tir,
Cânt godi eu
      penau a llawenhau,
  Ei poenus wae, â heibio'n wir.

  Mae braint,
Yn awr yn eiddo i bawb o'r saint,
'Does tafod fyth fynega ei maint;
  Can's diangc wnant
        o wlad y boen,
I'r fythol wledd,
      y faith barhad,
  Bwrcasodd gwaed
        yr addfwyn Oen.

    Daeth trwy,
Fy Iesu glân, a'i farwol glwy',
Fendithion fyrdd, daw etto fwy,
  Mae ynddo faith, ddiderfyn 'stôr;
Ni gawsom rai defnynau i lawr,
  Beth am yr awr,
        cawn fyn'd i'r môr!

    'Does mwy,
Ar ol pob gwledd, ond aml glwy',
A thristwch yn y byd lle 'rwy':
  Mae hiraeth trwy fy enaid cu,
Am fy rhyddhau o falch y cnawd,
  Fyn'd at fy mrawd, a'm priod frŷ.
Grawn-Sypiau Canaan 1805
- - - - -
(Llawenydd y gwaredigaeth)
    Bydd, bydd,
Yn llawen Sîon, daeth y dydd,
I gael o'r diwedd fyn'd yn rhydd;
  Wele, dy Frenin wedi dod,
Dy holl elynion sydd mewn braw;
  Gwna ol ei law,
        boed iddo'r clôd.

    Daw dydd,
Y cân y dinasyddion sydd,
Gan rym y don,
      a'u bron yn brudd;
  Y bore tawel sydd ger llaw,
Ac yno bydd soniarus dôn,
  O fawl i'r Oen,
        heb boen na braw.

    Bydd, bydd,
Llawenydd na raid bod yn brudd,
I bawb sy'n meddu bywiol ffydd;
  Can's dyma'r dydd
        bydd gweiddi, dewch,
Chwi fendigedig blant fy Nhad,
  I'r nefol wlad,
        o'i rad yr ewch.
Tonau [288.888]:
Dryfield (David J James 1743-1831)
Glan yr Afon (David Davies 1810-75)

gwelir:
  Clôd clôd (I'r hwn a'm carodd cyn fy môd)
  Daw dydd (Y cân y dinasyddion sydd)
  Fe gân (Y gwaredigion fawr a mân)

("See thy King coming")
    O be,
Cheerful, Zion, - the day has come
For thee to get at last to go free!
  See thy King has come;
All thy enemies are in terror;
  His hand will make a mark,
        to him be the acclaim.

- - - - -
("And they sing the song of Moses
and the song of the Lamb.")
    Be, be,
Cheerful Zion, the day has come,
To get at last to go free,
  See, thy kind has come,
All thy enemies are in terror,
  His hand will make a mark,
        to him be the acclaim.

    Sing,
Shall the delivered, great and small,
Eternal acclaim is their holy prerogative;
  When the fire comes to burn the land,
They shall get to raise their
      heads and rejoice,
  Their painful woe has truly passed.

  There is a privilege,
Now belonging to everyone of the saints,
No tongue shall ever express its extent;
  Since escape they shall
        from the land of pain,
To the everlasting feast,
      which shall long endure,
  Which the blood of the
        gentle Lamb purchased.

   My holy Jesus,
Brought through, with his mortal wound,
A myriad blessings, yet more shall come,
  In him is a vast, endless store;
We got some drops down below,
  Something for now,
        we shall get to go to the sea!

    There is no more,
After every feast, but frequent wounds,
And sadness in the world where I am:
  There is longing through my dear soul,
For my freeing from the pride of the flesh,
  To go to my brother, and my spouse above.
 
- - - - -
(The joy of the deliverance)
    Be, be,
Cheerful, Zion, the day has come,
To get at last to go free;
  See, thy King has come,
All thy enemies are in terror;
  A mark his hand shall make,
        to him be the acclaim.

    A day is coming,
The song of the citizens is,
By the force of the wave,
      and their breast sad;
  The quiet day is at hand,
And then shall be the sounding tune,
  Of praise to the Lamb,
        without pain or terror.

    There shall be, be
Joy, nor need to be sad,
For any who are possessing lively faith;
  Since here is the day when
        there shall be shouting, come,
Ye blessed children of my Father,
  To the heavenly land,
        from his grace ye come.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~