O! cenwch fawl i Brynwr byd, Nesewch i'w gyd-addoli; Mae'r engyl pur mewn nefol iaith Yn hoffi'r gwaith o'i foli: Esgynodd Crist mewn cyfiawn hawl Trwy fythawl byrth gogoniant, A phlygai'r nefoedd ag un llef, I'w dderbyn Ef mewn moliant. Nesewch, nesewch, genhedloedd byd, O unfryd â'r angylion; Mae Brenhin nef yn un o'n cnawd - Mae'r Iesu'n frawd i ddynion! Molienwch Ef o galon bur, Mae'n haeddu'r oll a feddwn! Gwaredwr dyn yw Brenin ne', Pwy ond Efe a folwn? Nid Brenin Israel yw yn awr, Ond Brenin mawr yr hollfyd; Daw delw'r byd i ddelw'r nef Pan enfyn Ef ei Ysbryd; Daw pobloedd daear o bob lliw Yn siriol i'w groesawu, A cherdda'r anthem drwy bob gwlad I roi mawrhâd i'r Iesu.William Ambrose (Emrys) 1813-73
Tonau [MSD 8787D]: |
O sing ye praise to the world's Redeemer, Draw ye near to worship him together; The pure angels in a heavenly language are Delighting in the work of praising him: Christ ascended with a righteous entitlement Through the everlasting gates of glory, And the heavens were bowing with one voice, To receive Him in praise. Draw near, draw near, ye nation's of the world, With one intent with the angels; The King of heaven is one of our flesh - Jesus is a brother to men! Praise ye Him from a pure heart, He is deserving all we possess! The Deliverer of man is the King of heaven, Whom but He shall we praise? Not the King of Israel is he now, But the great King of the whole world; The image of the world shall become the image of heaven When he sends his Spirit; The peoples of earth of every colour shall come Cheerfully to welcome him, And the anthem will walk through every land To give majesty to Jesus.tr. 2016 Richard B Gillion |
|