O, cenwch lafar glod, Bob perchen bōd a byw, - Ymgrymwch holl drigolion byd, Yn unfryd o flaen Duw. Dylwythau daear faith Pob llwyth ac iaith y'nghyd Aberthwch iddo foliant glān, Mewn hyfryd gān i gyd. Ein Lluniwr yw, a'n Tad, Ein Ceidwad da bob dydd; Efe ddiwalla'n hangenrhaid, Fel defaid ei borf'ydd. O, ewch i mewn i'w byrth, A dygwch ebyrth byw O foliant am ei ddoniau mād, A'i rād i ddynolryw. Trag'wyddol pery hedd Ei fawr drugaredd gān, A'i bur wirionedd sy'n parhau O hyd trwy'r oesau'r un.William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [MB 6686]: |
O sing vocal praise, Every possessor of being and living, - Bow all inhabitants of the world, In unity before God. Tribes of the vast earth Every tribe and language together Sacrifice to him pure praise, All in a delightful song. He is our Maker, and our Father, Our good Keeper every day; He will satisfy our need, Like sheep of his pasture. O, enter into his portals, And take living sacrifices Of praise for his esteemed gifts, And his favour to humankind. Eternally endures the peace Of his dear, great mercy, And his pure truth which continues Throughout the ages the same.tr. 2009 Richard B Gillion |
|