O clyw fy ngwaedd, a gwel fy ngwedd, Fe hydd am ddwr, 'rwy'n brefu am hedd; Tyr'd, O fy Nuw, cwyd fi uwch nen, I'th lwyr fwynhau o fewn i'r llen. Gwel fi yn llesg, a gwrando'm llef; Mi wnes im' nyth wrth borth dy nef, Lle 'rosaf byth, tra byddwyf byw, Nes cael rhoi naid i gol fy Nuw. Fy nghlwyfau mawr a dd'wed i maes, Im' ddioddef cûr gan elyn câs; Llesg wyf ers tro, gan hynny trin Fy nghalon wan â nefol wîn. On'd oes mawr lu yn y nefol wlad Yn nofio'n rhwydd mewn cariad rhad? Peth 'hono rho i'm henaid trist, A gwrando nghwyn er mwyn fy Nghrist. 'Does dim wna les is nefol len, Nes teimlwy' mhwys ar Grist fy Mhen; Mae 'nghalon fach yn awr yn friw, Trwy ddysgwyl wrth fy anwyl Dduw. Pa bryd y gwela'i'r ddedwydd awr I'm beiau'n llu gael myn'd i'r llawr? Yn bur heb len gael gwel'd fy Nghrist, A myned trwy f'holl ofid trist. O n'allwn beidio pechu'n llyn, A disgwyl fry ar Bisga fryn, Nes gwawrio o draw dragwyddol ddydd, At Iesu'n rhwydd ai f'enaid rhydd. Os na pherffeiddi fi îs nen, Nes myn'd o'm poen i grymu'm pen; Rho dy fwynhau yn Nghedar drist, Gormod yw'm cûr heb gwmp'ni'm Crist.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 Tôn [MH 8888]: Green's (<1811) |
O hear my shout, and see my condition, Like a deer for water, I am bleating for peace; Come, O my God, raise me above the sky, Completely to enjoy thee within the curtain. See me feeble, and hear my cry; I made my nest at the portal of thy heaven, Where I will stay forever, while ever I am living, Until getting to give a leap into the bosom of my God. My great wounds tell out, Of my suffering a beating by a detestable enemy, I have been feeble for a while, therefore treat My weak heart with heavenly wine. Is there not a great host in the heavenly country Swimming freely in free love? Something of this give to my sad soul, And listen to my complaint for the sake of my Christ. Nothing does anything beneficial under the heavenly sheet, Until feeling my weight on Christ my Head; My little heart is now bruised, Through waiting on my belover God. When shall I see the happy hour For my faults as a host to get to go down? Purely without a sheet to get to see my Christ, And go through all my sad grief. O that I could stop sinning thus, And wait above on Pisgah hill, Until the dawning from yonder eternal day, Towards Jesus would my free soul go. If thou dost not perfect me under the sky, Until I go from my pain to strengthen my head; Grant to enjoy thee in sad Kedar, Too much is my ache without the company of Christ.tr. 2016,17 Richard B Gillion |
|