O cred, O cred, cai gymmorth I dynnu'r llygaid de'; O cred, O cred, cai allu I dorri'r fraich o'i lle; Trwy gredu ti orchfygi Elynion rif y gwlith, Cred yn yr Oen yn unig, Fe'th wna di'n ddedwydd byth. O tyred Ion trag'wyddol, Mae ynot ti dy hun, Fwy moroedd o drugaredd Nag a feddyliodd dyn: Os deni at anghenus A'i'godi ef i'r lan, Ei galon gaiff, a'i dafod, Dy ganmol yn y man. A raid i minnau drenga, O eisiau dyfroedd clir? 'Rwy bron llewygu'n tramwy, Y dyrys anial dir: Dwg fi i'r dyfroedd tawel, Porfëydd gleision mawr, Lle mae y rhai lluddedig, Yn rhoddi en pennau i lawr. - - - - - O cred, O cred, cai gymmorth I dynu'th lygad de; O cred, O cred, cai allu I dorri'th fraich o'i lle: Cred yn yr Oen fu farw Fry ar Galfaria fryn, Y fynyd gynta' y credost Cai lawer mwy na hyn. Nac edrych ar amodau Fyth fyth o'th fewn dy hun; Trwy gredu daw amodau, Mae gras wrth gredu nghlyn; Y fynyd gynta y credost Yw'r fynyd byddi byw, Wrth gredu yn Nghrist yn unig Cai wel'd gogoniant Duw.William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Rhan I - O Yspryd pur nefolaidd |
O believe, believe, thou shalt get help To pluck out the right eyes; O believe, believe, thou shal get power To cut the arm from its place; Through believing thou shalt overcome Enemies numerous as the dew, Believe in the Lamb alone, He will make thee happy forever. O come, eternal Lord, In thee thyself are Greater seas of mercy Than man thought: If thou draw near to a needy one And lift him up, His heart shall get, and his tongue, To praise thee soon. Must I too die, From want of clear water? I am almost fainting, traversing The troublesome desert land: Lead me to the quiet waters, Great, great pastures, Where the exhausted ones are Laying their heads down. - - - - - O believe, O believe, thou shalt get help To pluck out thy right eye; O believe, O believe, thou shalt get power To cut thy arm from its place: Believe in the Lamb who died Up on Calvary hill, The first minute thou believest Thou shalt get much more than this. Do not look at the conditions Never ever within thyself; Through believing come conditions, There is grace in connection with believing; The first minute thou believest Is the minute thou shalt live, On believing in Christ alone Thou shalt get to see the glory of God.tr. 2017 Richard B Gillion |
|