O cydnabydded dynol-ryw
O cydnabyddwn tra fo'm byw

(Creadigaeth, Rhagoriaeth, a Dyledswydd Dyn.)
1,2,3,4,5,6,(7,8,9,10,11),12.
O cydnabydded dynol-ryw!
Fod arnom ddyled fawr i Dduw;
  Mae pob rhyw ddoniau, îs y nef,
  Yn deilliaw o'i drugaredd ef.

Er bod ei rad haelioni'n fawr,
I holl gre'duriaid daear lawr,
  Fe roes i ddyn fyrdd myrddiwn mwy
  O roddion teg na'r eiddynt hwy.

Ni ffurfiodd ef greadur byw,
Yn ol ei ddelw, anwyl Dduw,
  Ond dyn yn unig, tan y nef,
  I debygoli iddo ef.

Ar ol diweddu dirfawr waith,
Ar dir, - a llu y dyfnder llaith;
  Gosdodd ddyn fel unig ben,
  Ar bob rhyw nifer îs y nen.

Addurnodd y Creawdwr ef,
O'u dyner nawdd
    â doniau'r nef,
  I draethu glân fynegawl glod
  I'w nefol annherfynol fod.

Am hyny dylai dyn o hyd,
Fod megys genau tros y mud;
  Cre'duriaid gwael iselaidd ryw,
  A'u nefol dôn i foli Duw.

GORPHWYSIAD.
Os ydyw dyled dyn bob awr Roi moliant i'r Jehofa mawr, Am grëadigol ddoniau rhad, A roes y doeth haelionus Dad. Pa faint yn fwy o ddyled sydd, Ar ddyn i ganmol Duw bob dydd, Am drefnu ffordd, o'i gariad hael, I gadw'r gwan grëadur gwael? Rhyfeddod! pa ryfeddod fwy, Na gweled Iesu tan ei glwy'? Yn dyodde'n brudd ar ddirfawr bren, A'r goron bigog ar ei ben! Ac wedi dyoddef angau du, Dros waelaf, annheilyngaf lu, Agorodd ffordd i'r nefol wledd, Fe dorodd byrth a dôrau'r bedd. Pob poen a gofid maith a ga'dd, A phob rhyw groesau o bob gradd, Sydd yndiweddu yn gytun, Er helaeth iachawdwriaeth dyn. Am hyny rho'wn haeddianol glod, A doniau rhydd o dan y rhod, I enw pur ein Ior a'n pen, Can's haeddawl yw o'r mawl, Amen.
- - - - -
(Talu diolch)
O cydnabyddwn tra fo'm byw,
Fod arnom ddyled fawr i Dduw;
  Mae pob rhyw ddoniau, îs y nef,
  Yn deilliaw o'i drugaredd ef.

Er bod ei rad ddaioni'n fawr,
I holl gre'duriaid gwaella'r llawr,
  Fe roes i ddyn fyrdd myrddiwn mwy
  O roddion teg nag iddynt hwy.

Am hyny dylem bob rhyw awr
Was'naethu'n llon ein Crëwr mawr,
  A moli gyda'r nefol lu,
  Ar beraidd gân, ei enw cu.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850

Tôn [MH 8888]: Hereford (S S Wesley 1810-76)

gwelir: Ni ffurfiodd Ior greadur byw

(The Creation, Superiority and Duty of Man.)
 
Oh, may human-kind acknowledge
That upon us is a great duty to God!
  Every kind of gift, under heaven, is
  Springing from his mercy.

Although his gracious generosity is great,
To all the creatures of earth below,
  He gave to man a myriad myriad more
  Of fair gifts than they possess.

He did not form a living creature,
After his image, dear God,
  But man alone, under heaven,
  To resemble him.

After finishing an enormous work,
On land, - and the host of the watery depth;
  He placed man as an only head,
  Over every kind of number under heaven.

The Creator adorned him,
Of his tender protection,
    with the gifts of heaven,
  To expound holy, eloqent acclaim
  To the heavenly, infinite being.

Therefore should man always,
Be like a mouth on behalf of the mute
  Creatures of a base, lowly kind,
  And their heavenly tune to praise God.

PAUSE.
If the duty of man every hour is To give praise to the great Jehovah, For free, creative gifts, Which the wise generous Father has given, How much more of a duty is there, Upon man to extol God every day, For arranging a way, of his generous love, To save the base, weak creature? A Wonder! what wonder more, Than to see Jesus under his wound? Suffering sadly on the enormous tree, And the thorny crown on his head! And after black death, For the worst, most unworthy host, He opened a way to the heavely feast, He broke the gates and doors of the grave. Every vast pain and grief he had, And all kinds of cross of every degree, Are ending in agreement, For the bountiful salvation of man. Therefore let us give deserved acclaim, And ready gifts under the sky, To the pure name of our Sovereign and our head, Since worthy is he of the praise, Amen.
- - - - -
(Paying thanks)
O let us acknowledge while ever we live,
That there is upon us a great duty to God;
  Every kind of gift, under heaven, is
  Issuing from his mercy.

Although his great, free goodness is
To all the most base creatures of earth,
  He gave to man a myriad myriad more
  Of fair gifts than to them.

Therefore we must every hour
Serve cheerfully our great Creator,
  And praise with the heavenly host,
  With a sweet song, his dear name.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~