O dan y groes 'rwy'n gruddfan

(Croes Crist)
O dan y groes 'rwy'n gruddfan
  Yn chwerw nos a dydd;
Ond yn y groes mae 'mywyd,
  Ac yn y groes mae'm fydd;
Ar bwys y groes mi ddringaf
  I'r drigfan ddedwydd draw,
Ac am y groes mi ganaf
  Yn beraidd maes o law.

Trwy'r groes y daeth trugaredd
  I gadw euog ddyn;
Trwy'r groes y daeth cyfiawnder
  A heddwch yn gytun;
Trwy'r groes fe ddisgyn Duwdod
  I godi llwch y llawr;
Am hyny mi ymffrostiaf
  Yn nghroes fy IESU mawr.
fe ddisgyn Duwdod:: daeth Duw, o'i gariad,

priodolwyd i / attributed to: John Elias 1774-1841
gan / by: Llawlyfr Moliant 1890

priodolwyd i / attributed to:
Thomas William Jenkyn 1784-1858
gan / by: Y Caniedydd Cynulleidfaol 1895

Tonau [7676D]:
Abertawe/Heidelberg (Claude Goudimel 1508(?)-72)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Llydaw (alaw Lydawig)
Penry (alaw Gymreig)
Pwllheli (John Francis 1789-1843)

(The Cross of Christ)
Under the cross I am groaning
  Bitterly night and day;
But in the cross is my life,
  And in the cross is my faith;
Leaning on the cross I will climb
  To the happy residence yonder,
And about the cross I will sing
  Sweetly soon.

Through the cross came mercy
  To preserve guilty man;
Through the cross came righteousness
  And peace to agreement;
Through the cross Divinity descended
  To raise the dust of the ground;
Therefore I will boast
  In the cross of my great JESUS.
Divinity descended :: God came, of his love,

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~