O Dduw preswylio ydywt Ti

(Agor Tŷ i Dduw)
O Dduw preswylio ydywt Ti
  Y tragwyddoldeb mawr;
Pa beth yw'r tŷ gyfodwn ni
  I'th enw ar y llawr?

Ond eto Ti addewaist fod
  Lle byddo dau neu dri
Yn cydymgynnull er Dy glod,
  Ac yn Dy enw Di.

O tywallt Dy fendithion rhad,
  O fôr y cariad fry,
Tryw bob ysbrydol ordinhad,
  Ar bawb o fewn Dy dŷ!

Y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân, -
  Y datguddiedig Dri
Yn Un, - mewn gweddi byth a chân
  O'i fewn addolwn ni.
Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95

Tonau [MC 886]:
Farrant (Richard Farrant c.1530-80)
Gerontius (John Bacchus Dykes 1823-76)

(Opening a House for God)
O God inhabiting art Thou
  The great eternity;
What is the house we raise
  To thy name on the earth?

But still Thou didst promise to be
  Where two or three be
Congregating together for Thy praise,
  And in Thy name.

Oh, pour Thy gracious blessings,
  From the sea of love above,
Through every spiritual ordinance,
  On everyone within Thy house!

The Father, and the Son, and the Holy Spirit, -
  The revealed Three
In One, - in prayer forever and song
  Within it we worship.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~