O Dduw pob gras a Thad pob dawn

(Cewri Ffydd ein Gwlad)
            (Dewi Sant)
O! Dduw pob gras a
    Thad pob dawn
I Ti rhown ddiolch calon lawn:
  Tydi a rhoddaist inni'n rhad
  Ein Dewi Sant yn nawdd i'n gwlad;
Pa Dduw sy'n darpar fel Tydi
Pob dawn yn rhad er budd i ni?

      (Yr Esgob William Morgan)
Mae Gair y Bywyd yn ein hiaith:
I Ti bo'r clod - Ti biau'r gwaith;
  A sant dy law o hyd sy'n fyw
  Yng nghalon gwlad
      gan deulu Duw;
Pa Dduw, &c.

            (Edmwnd Prys)
Emynau mawl Tŷ Isräel
Ar allor gwlad sy'n ddiliau mêl;
  Trwy waith dy was
      mae'r "Salmau Cân"
  Yn ffrwd o fawl yng Nghymru lân;
Pa Dduw, &c.

         (Y Ficer Prichard)
Mewn tywyll nos
    caed "Cannwyll" wiw
Yn olau claer mewn anial gwyw;
  Mae'i gwawl yn gwenu yn ein plith,
  Yn llawn o foes, yn drwm o wlith;
Pa Dduw, &c.

Mae ysbryd Dewi heddiw'n fyw
I gadw'n gwlad ar lwybrau Duw;
  O! Dduw ein Dewi, tyrd yn nes
  I danio'n gwlad
      â'r dwyfol wres;
Pa Dduw, &c.
Hugh Lunt (Gwynodl) 1872-1941

Tôn [88.88.88]: St Catherine (H F Hemy / J G Walton)

(The Giants of Faith of our Land)
         (Saint David)
O God of every grace and
    Father of every gift
To Thee we give the thanks of a full heart:
  Thou who gavest to us graciously
  Our Saint David as patron for our land;
What God is a provider like Thee
Of every gift freely as a benefit for us?

       (Bishop William Morgan)
The Word of Life is in our language:
To Thee be the acclaim - Thine is the work;
  And the saint of thy hand who still lives
  In the heart of the land
      by the family of God;
What God etc.

           (Edmund Price)
The hymns of praise of the House of Israel
On the land's altar are combs of honey;
  Through the work of thy servant
      the "Psalms of Song" are
   A stream of praise in holy Wales;
What God etc.

        (The Vicar Prichard)
In the darkness of night
    a worthy "candle" was got
As a clear light in a wizened desert;
  His light is smiling amongst us,
  Full of morals, heavy with dew,
What God etc.

The spirit of David today is alive
To keep our land on the paths of God;
  O God of our David, come near
  To kindle our land
      with the divine warmth!
What God, &c.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~