O Dduw, 'r wy'n anobeithio, Yn anobeithio'n lân, Os creffi ar f' anwiredd, I sefyll o Dy fla'n. Trugaredd a maddeuant Sydd eto gyda Thi I'r gwrthryfelwyr gwaetha': A pham nad oes i mi? Mi glywais son Amdanat, Mi glywais lawer gwaith Fod Ynot drugareddau Sy'n fwy na'r moroedd maith. Yn disgwyl am drugaredd Wrth D'orsedd byth y'm cair: Os trengi wnaf mi drengaf A'm gobaith yn Dy air. Pwy glywodd am bechadur, Mewn unrhyw oes na gwlad, Erioed ddaeth at yr Iesu Fu farw wrth Ei dra'd? Ni thor E'r gorsen ysig - Ei hunan ddwedodd im - A'r llin sy'n mygu'n wannaidd, Ni ddiffodd E' fe ddim.1824 Thomas William 1761-1844 Tôn [7676D]:Meirion(n)ydd (William Lloyd 1786-1852) gwelir: Pwy glywodd am bechadur? |
O God, I am hopeless, Hopeless completely, If thou lookest on my falsehood, To stand before Thee. Mercy and forgiveness Are still with Thee Towards the worst rebel: And why is there not to me? I heard a rumour about Thee, I heard many times That in Thee are mercies Which are greater than the vast seas. Awaiting thy mercy At Thy throne forever to be had: If I perish I perish And my hope in Thy word. Who heard of a sinner, In any age or land, Who ever came to Jesus Who died at his feet? He does not break the bruised reed - It was he himself who said to me - And the weakly smoking flax He did not extinguish.tr. 2008 Richard B Gillion |
|