O! Dduw, 'rwyt Ti yn llenwi'r nef, A'r bydoedd mawr bob un; A'th lygad manwl, treiddio mae I eigion calon dyn. Pob gair a gweithred trwy'r holl fyd, Pob meddwl gwamal, cudd, Sydd hysbys i Dy feddwl pur - I Ti, mae'r nos fel dydd. O'n blaen, o'n hol, fry, ac i lawr, Ac ar bob llaw 'rwyt ti, Yn llenwi'r holl ehangder mawr, Ac hefyd gyda ni. B'le ffŷ pechadur o Dy ŵydd? B'le ceir y dirgel le Am funud awr all guddio'i ben Yn llwyr o sylw'r ne'? Pe ceisiem loches yn y pridd Rhag dy ddinystriol lid, Dy law a ddrylliai byrth y bedd, I'n cael i'r farn yn fud. Pe medrem wisgo llèni'r nos I guddio'n herchyll fai, Cysgodau'r cyfnos gilient oll, A'n gadael dan y wae. O! tyred, hen drugaredd rad, Â'th hoff ymgeledd rwydd; Pechasom oll yn erbyn Tad Nas gallwn ffoi o'i ŵydd!Joseph Harris (Gomer) 1773-1825
Tonau [MC 8686]: gwelir: Pob gair a gweithred trwy'r hol fyd |
O God, Thou art filling heave, And the great worlds every one! And thy discerning eye, penetrating it is Into the ocean of the heart of man. Every word and action througout the whole world, Every fickle hidden thought, Is evident to Thy pure thought - To Thee, the night is like day. Before us, behind us, above, and below, And on every hand art thou, Filling the whole great breadth, And also with us. Where shall a sinner flee from Thy presence? Where is the secret place to be found For a single moment where he can hide his head Completely from the notice of heaven? If we should seek refuge in the soil From thy destructive wrath, Thy hand would shatter the portals of the grave, To get us to the judgment mute. If we should dress in the curtains of the night To hide our hideous sin, The shadows of the twilight would all retreat, And leave us under the woe. Oh, come, ancient, free mercy, With thy ready, lovely help! We have all sinned against a Father We cannot flee from his presence!tr. 2015 Richard B Gillion |
|