O deffro côd fy enaid cu, Pa'm 'r ofnaf lew elynion lu? Er maint yw grym uffernol griw, Fe maedda gwaed yr Iesu gwiw. Crist wyddai'm bai'n hir cyn bod byd, Mai pechod gai 'fe ynnwy' 'gyd; A'i fryd oedd lawn er uffern lu, I'm dwyn i fryn Caersalem fry. Am hyn mi greda, tra fwi byw, Mai Cyfaill da caf wel'd fy Nuw; Y dwg fy Nhad fi ' ben fy nhaith, Er gwaetha lluoedd uffern faith. Cof ddyddiau gynt, fy enaid trist, Attolwg, cred hen eiriau'th Grist; Gwnaeth 'ddewid hael na ddigiai'n hwy, A'm beiau mawr ni chofiai mwy. Ce's wel'd yn rhodd fod Duw o'm rhan, Yn Briod gwiw i'm henaid gwan, 'N arfaethu'm dwyn i ben fy nhaith, O eitha' tragwyddoldeb maith. Pryd hynny teimlais waed yr Oen, Yn tynu'm pwn a llaefu'm poen; Yn f'enaid llon 'roedd cri a llef, Am fyn'd ar nawf i deyrnas nef. Byth cofiaf mwy y lle a'r man, Dylifodd gwîn i'm henaid gwan, Yn ffrwd ddidrai o'r nefoedd draw, Nes gwella'm briw a dofi'm braw. Pryd hynny 'mlaen yr o'wn yn myn'd, Gan bwyso'n ffri ar f'anwyl Ffrynd; A'm golwg beunydd ar y gwaed, Yn sathru pechod dan fy nhraed. Disgwyliaf dro, fe wawria draw, Dragwyddol ddydd, fy Iesu ddaw I'm dwyn o'm briw, lle na bydd brâth, Na braw wrth swn un danllyd saeth.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 Tôn [MH 8888]: Portugal (Thomas Thorley) gwelir: Rhan I: O Arglwydd gwel fi'n llesg a gwan |
O awake, arise, my dear soul, Why shall I fear a resolute host of enemies? Despite how great is the force of an infernal crew, The blood of worthy Jesus shall strike. It is Christ who knew my fault long before the world was, That in me he would find all sin; And his intention was full despite the host of hell, To bring me up to Jerusalem hill. Therefore I will believe while ever I live, That as a good Friend I shall see my God; My Father shall bring me to my destination, Despite the vast hosts of hell. Remember former days, my sad soul, Stop, believe the old words of thy Christ; He made a generous promise he would be angry no longer, And my great faults he would remember no more. I got to see as a gift that God is on my side, As a worthy Spouse for my weak soul, Planning to bring me to my destination, From the extremity of a vast eternity. Then I felt the blood of the Lamb, Removing my blow and easing my pain; In my cheerful soul there was a cry and a shout, To float to the kingdom of heaven. Evermore shall I remember the place and the spot, Wine flowed into my weak soul, As an unebbing stream from yonder heaven, Until healing my bruise and taming my fears. Then I would be going, While leaning freely on my dear Friend; With my gaze daily on the blood, Trampling sin under my feet. I expect the time, yonder shall dawn, Eternal day, my Jesus shall come To take me from my bruise, where there shall be no pang, Nor terror at the sound of any fiery arrow.tr. 2018 Richard B Gillion |
|