O disgyn fwyn golomen hardd

(Disgyniad yr Ysbryd)
O! disgyn fwyn golomen hardd,
  Prydferthwch gardd paradwys,
I lawr i'n plith yr oedfa hon,
  Ac yn ein calon gorphwys.

Santeiddia'n serch, a chod ein bryd
  Uwchlaw y byd yn gyfan;
A gwna'n calonau celyd ni
  Yn demlau i ti dy hunan.
chod :: chwyd

D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903

Tonau [MS 8787]:
Dyfroedd Siloa(h) (John Williams 1740-1821)
St Albans (Coral Ellmynig)

(The descent of the Spirit)
Oh descend, beautiful, gentle dove,
  The beauty of the garden of paradise,
Down amongst us in this meeting,
  And in our hearts rest.

Sanctify our affection, and lift our intention
  Above the whole world;
And make our hard hearts
  Into temples for thy own self.
::

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~