O dyrfa fawr ysbrydol! O anllygredig lu! Eu gynau'n wỳn a olchwyd Yn ngwaed eu Prynwr cu; Diflanodd eu holl ofnau, Darfyddodd gwarth y groes; Pob galar, a phob cystudd, Am byth oddi wrthynt ffoes. Ni welir un o honynt Byth mwy yn glaf, na gwan; Llawenydd a gorfoledd O'r diwedd ddaeth i'w rhan; Y Brenin a'u harweinia I'w ddinas hardd ei hun, A'i ddelw ogoneddus A ddygir gan bob un. Am hyn, ei saint, rhyfeddwch! Mawrygwch enw'r Oen, O'i wir ewyllys drosoch Fu'n dyoddef marwol boen! Eich gwaith a fydd rhyfeddu, A chanu tra bo chwyth - A'i garu a'i folianu, A'i barchu'n anwyl byth!Cas. Ieuan Glan Geirionydd 1829
Tonau [7676D]: |
O great, spiritual throng! O incorrupt host! Their white robes were washed In the blood of the dear Redeemer; All their fears vanished, The shame of the cross passed away; Every lamentation, and every affliction, Forever from them fled. None of them is any more To be seen ill, or weak; Joy and rejoicing At last came to their portion; The King shall lead them To the his own beautiful city, And his glory image Is to be borne by every one. Therefore, his saints, wonder ye! Magnify the name of the Lamb, Of his true will for you He suffered mortal pain! Your work shall be to wonder, And sing while there be breath - And to love him and to praise him, And to revere him dearly forever!tr. 2019 Richard B Gillion |
|