O edrych arnom Arglwydd da

(Trallod y Saint)
O! edrych arnom, Arglwydd da,
  A thrugarha yr awron,
Fel gallom ynot lawenhau
  Mewn cyfyngderau mawrion.

O'n mewn y mae halogrwydd du
  Ymron â llethu'n calon,
Ac yn ein herbyn ar bob llaw
  Mae dwylaw ein gelynion.

Lluddedig ydym ar ein taith,
  Yng nghanol maith beryglon,
A mynych iawn ar fin llesgâu
  Trwy rym cystuddiau chwerwon.

O! edrych arnom, Arglwydd da,
  A thrugarha yr awron,
O'th gariad rhad a'th ras di-goll
  Cyflawna'n holl anghenion.
O'n mewn y mae halogrwydd du ::    
    O fewn halogrwydd dybryd sy

David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907

Tonau [MS 8787]:
Cymuneb (Caradog Roberts 1878-1935)
Tal-y-sarn (William Owen 1814-93)
Y Croesbren (Joseph Parry 1841-1903)

(The Trouble of the Saints)
Oh, look upon us, good Lord,
  And have mercy now!
Thus may we in thee rejoice
  In great straits.

Within us is black defilement
  Almost oppressing our heart,
And against us on every hand
  Are the hands of our enemies.

Exhausted are we on the journey,
  In the middle of vast dangers,
And very often on the verge of fainting
  Through the force of bitter afflictions.

Oh, look upon us, good Lord,
  And have mercy now!
Of thy free love and thy unfailing grace
  Fulfill all our needs.
Within us is black defilement ::    
    Within, ugly defilement is

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~