O f'enaid nac anghofia'r dydd

(Dydd yr Argwlydd)
O! f'enaid, nac anghofia'r dydd,
Y daeth y Meichiai mawr yn rhydd;
  Agorwyd i ni byrth y nef,
  Trwy rin ei fuddugoliaeth Ef.

Mor hyfryd cael un dydd o'r saith
I'w dreulio'n hollol gyda'th waith;
  Gorffwysfa dawel f'enaid trist,
  A gwledd yw cofio
      angau Crist.

Y mae gorffwysfa'n ôl i'r saint,
Mewn gwlad o hedd, O! ryfedd fraint!
  Lle cânt fwynhau,
      heb gur na phoen,
  Dragwyddol Sabbath gyda'r Oen.
Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845

Tonau [MH 8888]:
    Bro Dawel (Emlyn Davies 1870-1960)
    Bryn Onnen (D E Parry-Williams 1900-96)
    Brynteg (J Ambrose LLoyd 1815-74)

gwelir: Y Sabbath gŵyl nefolaidd yw

(The Lord's Day)
O my soul, forget not the day,
The great Surety came free;
  Opened for us were the gates of heaven,
  Through the merit of His victory.

How delightful to get one day of the seven
To spend wholly with thy work;
  The quiet resting-place of my sad soul,
  And a feast it is to remember
      the deaeth of Christ.

There is a resting-place left for the saints,
In a land of peace, O wonderful privilege!
  Where they may enjoy,
      without beating or pain,
  An eternal Sabbath with the Lamb.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~