O f'enaid, dysgwyl dan dy bwn Nes elo heibio'r aflwydd hwn; Daw meddyginiaeth it' mi wn; Ar fyr iachêir dy glwy': Daw gwaredigaeth oddidraw, Oddiwrth dy Arglwydd tirion daw; Am hyny, bellach, dysgwyl, taw, Na rwgnach, f'enaid, mwy. Mi welaf ôl y siriol saint Dan y cystuddiau mwya'u maint, Yn cadw'u cysur gyda'u braint, Mewn golwg ar ei wedd: Ac er trallodion, poen, a gwae, Er i gystuddiau amalhau, Af finau'n mlaen, dan lawenhau, I'r Ganaan lawn o hedd.Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1876 Tôn [8886D]: Beulah (alaw Gymreig) |
O my soul, wait under thy load Until this misfortune passes; Treatment shall come for thee I know; Quickly thy wound is to be healed: Deliverance shall come from yonder, From thy tender Lord it shall come; Therefore, henceforth, wait, be silent, Do not grumble, my soul, any more. I see the trace of the cheerful saints Under the afflictions of the greatest extent, Keeping their comfort with their privilege, In view on their countenance: And despite troubles, pain, and woe, Despite afflictions multiplying, I shall go forward, rejoicing, To the Canaan full of peace.tr. 2019 Richard B Gillion |
|