O f'enaid gwel fath noddfa, Ddiysgog gadarn yw, Y'mhob rhyw gyfyngderau, Tragwyddol ras fy Nuw; Ac yma boed fy nhrigfa, A'm hyfryd dawel nyth, Yn nyfnder fy nghystuddiau, Sef dan dy aden byth. Cwymp f'enaid wrth ei orsedd, A gorwedd wrth ei draed, Rhyfedda'r drefn anfeidrol Arfaethwyd gan y Tad: Lle gall'sai ngadael innau, Fel yr angylion sy', Yn berwl mewn cadwynau Yn y dyfnderoedd du. Tra fyddo'r ne'n rhyfeddu Dyfnderoedd mawr ei ddawn, Anfeidrol faith rinweddau Yr iachawdwriaeth lawn, Yn lân rhoent yr anrhydedd, Goruchel pur dilyth, I'r hwn sydd ar yr orsedd, A'r Oen, heb flino byth. Deffrowch fy holl serchiadau, A sefwch yn eich lle, I garu a rhyfeddu Tywysog mawr y ne'; Awdwr ein hiachawdwriaeth, Pwrcasodd nefol hedd, Ac er fy mwyn bu'n gorwedd Yn dawel yn y bedd.
William Williams 1717-91 Tôn [7676D]: Lock (<1829)
gwelir: |
O my soul, see what kind of unshakeable, Firm refuge is, In all kinds of straits, The eternal grace of my God; And may here be my dwelling-place, And my delightful, quiet nest, In the depth of my afflictions, That is under thy winds forever. Fall, my soul, at his throne, And lie at his feet, The wonderful, immeasurable plan Was devised by the Father: Where I could have been left, Like the angels that are, Burning in chains In the black depths. While heaven is wondering At the great depths of his gift, The immeasurable, vast merits Of the full salvation, Holy they give the supreme, Pure, sincere honour, To him who is on the throne, And the Lamb, without wearying ever. Awake, all my affections, And stand in your place, To love and to wonder at The great Prince of heaven; The Author of our salvation, Purchased heavenly peace, And for my sake he lay Quietly in the grave. tr. 2016 Richard B Gillion |
|