O fewn yr anial dir Yr wyf o hyd; Yn disgwyl goleu clir O'r nefol fyd; O ddyfner llawer ffôs Yn eiddil ac yn wyw, Mi ganaf yn y nos, "Duw, cariad yw." Er profi'n helaeth iawn O'i gariad cu, Fy ngalon sydd yn llawn Gelyniaeth ddu; Ond tra fo gras yn stôr, Ac imi Brynwr byw, Mi guraf wrth Ei ddôr, "Duw, cariad yw." Af heibio Bryn y Groes At Geidwad dyn; Fy mywyd imi roes O'i ras Ei Hun; Er sarnu dan fy nhraed Gynghorion pur eu rhyw, Mae cymod yn y gwaed, "Duw, cariad yw." Mae llais efengyl fwyn O fewn y wlad; I'r euog mae yn dwyn Maddeuant rhad; Tra fyddo'r hyfryd lef Yn torri ar fy nghlyw Mae gobaith am y nef, "Duw, cariad yw."Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 6464.6664] |
Within the desert land I am still; Expecting a clear light From the heavenly world; From the depths of many a ditch Weak and withered, I will sing in the night, "God, he is love." Despite experiencing very widely His dear love, My heart is full Of black enmity; But while there be grace in store, And for me a living Redeemer, I will knock at His door, "God, he is love." I will go past the Hill of the Cross To the Saviour of man; My life to me he gave From His own grace; Despite trampling under my feet Counsels of a pure kind, There is reconciliation in his blood, "God, he is love." The voice of the mild gospel is Within the country; To the guilty it is bringing Gracious forgiveness; While ever the delightful voice shall be Breaking on my hearing There is hope of heaven, "God, he is love."tr. 2015 Richard B Gillion |
|