O ffarwel frodyr, ffyddlon rai, Bawb oll a'u clwyfus bebyll clai; O dŷ fy Nhad daeth galwad gu, Im' adael y daearol dŷ. Yr Iawn gorphenol drwy wir ffydd, Yn puro'r fynwes euog sydd; Mae'r fron yn dawel, hyfryd yw, Mae rhydd gydwybod gyda Duw. Gwan yn y gwythi ydyw'r gwaed, Ac oeri trwyddynt y mae'r traed, Torwyna'r llygad, try yn llym, A'r anadl frau'n byrhau heb rym. Mi welaf mewn gorfoledd mawr Angylion wrth fy ngwely'n awr, Yn dysgwyl gyda hyfryd hoen, Im' ado'r babell lawn o boen. Edrychant, gwenant arna'i'n gu, Tra bwy' rhwng dwylaw'r angeu du; Ac yna'm dygant ger bron Duw, I blith ysprydion o bob rhyw; Yr angel, cerub, seraph, sant, I chwareu'r delyn â'r aur dant; A'n caniad newydd hynod ni Fydd am farwolaeth Calfari. Mi welaf borth y nefol bau, I mi'n agored, - neb i'w gau; A gorseddfaingc ryfeddol fawr, A'r Oen yn eiriol arni'n awr. Mi welaf fryniau'r nefol fro, Myfi a'u dringaf ar fyr dro; Lle clywaf bêr ganiadau'r nef, Oll yn cydseinio "Iddo Ef." Byr ysgafn gystudd sydd dan ser, Yn dal anwylion deulu Ner; Er hyn 'rwy'n chwennych d'weyd i chwi Fod marw'n elw mawr i mi. Fy noniau a'm synwyrau'n awr Ysgydwir gan ddoluriau i lawr; Ond anian dduwiol, reddfol ras, Yn f'enaid glŷn drwy angeu glas. Chwychwi hebryngwch fy nghorph brau I'r beddrod gwlyb i bydru'n glau; Fy enaid â i fynwes Duw, I blith nefolion byth i fyw.1806 Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841
[Mesur: MH 8888] |
O farewell, brothers, faithful ones, Everyone, all with their diseased tent of clay; From my Father's house came a dear call, For me to leave the earthly house. The finished Atonement through true faith, Purifying the guilty bosom is; The breast is quiet, delightful it is, There is a free conscience with God. Weak in the veins is the blood, And growing cold through them are the feet, The eye shows its white, turns sharply, And the fragile breath shortening without force. I see in great jubilation Angels at my bed now, Waiting with delightful joy, For me to leave the tent full of pain. They look, they smile upon me dearly, While I am between the hands of black death; And then they will lead me before God, Amongst the spirits of every kind; The angels, cherubs, seraphs, saints, To play the harp with the gold string; And our new, notable song Shall be about the death of Calvary. I see the gate of the heavenly resting-place, To me open, - no-one to close it; And a wonderful, great throne, And the Lamb interceding for me now. I see the hills of the heavenly region, I shall climb them after a short while; Where I hert the sweet songs of heaven, All resounding "Unto Him." Thre is short, light affliction under stars, Holding the beloved of the family of the Master; Despite this I am longing to tell you That death is a great reward to me. My gifts and my senses now Are to be shaken down by sadnesses; But a godly nature, amazing grace, In my soul shall stick through utter death. Ye shall escort my fragile body To the wet grave to decompose quickly; My soul shall go to the bosom of God, Amongst the heavenly one forever to live.tr. 2016 Richard B Gillion |
|