O fin y pydew obry

(Min y pydew)
O fin y pydew obry
Daeth Iesu i'm gwaredu,
  O'i ras ar Galfari;
Fy nyled mawr oedd,
Fe'i talodd ar g'oedd,
  Fe brynodd y nefoedd i mi.

Caf ddiwedd ar bob blinfyd,
Fy nghystudd mawr, a'm hadfyd,
  Yn nhir y bywyd fry:
Tragwyddol fwynhad
Yn nheyrnas fy Nhad,
 Heb unrhyw frad i'm drygu.
Morgan Rhys 1716-79

[Mesur: 776557]

gwelir: Henffych i'r boreu hyfryd

(The edge of the pit)
From the edge of the pit below
Came Jesus to deliver me,
  By his grace on Calvary;
Great was my debt,
He paid it publicly,
  He purchased heaven for me.

I shall get an end to every tribulation,
My great affliction and my adversity,
  In the land of the living above:
Eternal enjoyment
In the kingdom of my Father,
  Without any betrayal to do me harm.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~