Haeddiant Crist yn ddigonol yma, ac yn y farn.) O flaen y fainc rhaid sefyll, Ië, sefyll cyn bo hir; Nid oes a'm nertha i yno Ond dy gyfiawnder pur: Myfi anturia'n ëon, Trwy ddyfroedd a thrwy dân Heb oleu ac heb lewyrch, Ond dy gyfiawnder glân. Ti Farnwr byw a meirw, Sydd ag allweddau'r bedd, Terfynau eitha'r ddaiar Sy'n disgwyl am dy hedd: 'Dyw gras i Ti ond gronyn, Mae gras, ar hyn o bryd, Ryw filoedd maith o weithiau I mi yn well na'r byd. Pwy ddyry im' falm o Gilead, Maddeuant pur a hedd, Nes gwnend i'm hyspryd edrych Heb ofni ar y bedd; A diangc ar wasgfeuon, Euogrwydd creulon crŷ'? 'Does ond yr hwn a hoeliwyd Ar fynydd Calfari. Mae yma fôr o gysur, Yn llifo i fy rhan; Er bod holl rwydau Satan, Yn erbyn f'enaid gwan: Bwriadwyd oll eu torri, A'r bwriad ddaw i ben, Mor siwr a'r bwriad hwnnw, O farw ar y pren. Sydd ag allweddau'r :: Agorwr dorau'r Tôn [7676D]: Aberystwyth (<1829) Tôn [7676D+]: Bryniau Cassia (hen alaw) William Williams 1717-91 gwelir: Angylion doent yn gyson Pwy ddyry im' falm Gilead? Ti Farnwr byw a meirw |
The merit of Christ sufficient here, and in the judgment.) Before the throne one must stand, Yes, stand before long; There is nothing that strengthens me there But thy pure righteousness: I shall venture fearlessly, Through water and through fire Without a light and without a gleam, But thy holy righteousness. Thou Judge of living and dead, Who hast the keys of the grave, The extreme ends of the earth Are waiting for thy peace: Grace is nothing to Thee but a grain, Grace is, at this time, Some thousands of times greater To me better than the world. Who will give me the balm of Gilead, Pure forgiveness and peace, Until making my soul look Without fear at the grave, And escape from the tight places Of strong, cruel guilt? There is no-one but He who was nailed On mount Calvary. There is here a sea of comfort, Flowing to my part; Despite all the snares of Satan, Against my weak soul: It was planned to break them all, And the plan has come to fulfilment, As sure as that plan, Of dying on the tree. Who hast the keys of the :: Opener of the doors of the
tr. 2015 Richard B Gillion |
|