O flaen gweithredoedd rhyfedd Duw

("Ti a gei wybod ar ol hyn.")
O flaen gweithredoedd rhyfedd Duw
  Y safwn heddyw'n sỳn,
A'r unig air ddaw atom yw,
  Cawn wybod ar ol hyn.

Ireiddiaf flodyn heb un craith,
  Bron agor wywa'n sỳn;
Yn fud y safwn wrth y gwaith,
  Heb wybod beth yw hyn.

Pa fodd, o nos gorthrymder mawr
  Y daw yr hafddydd gwyn?
Pa fodd cawn nef o stormydd llawr?
  Cawn wybod ar ol hyn.

Wrth golli ein cyfeillion cu
  Yn hwyrnos ddu y glyn,
Hiraethwn weld y boreu'n dod
  Cawn wybod ar ol hyn.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937

Tonau:
Beatitudo (J B Dykes 1823-76)
French (The CL Psalmes of David 1615)
St Anne (William Croft 1677-1727)

("Thou shalt get to know after this.")
Before the wonderful actions of God
  We stand today amazed,
And the only word which comes to us is,
  We shall get to know after this.

A most fresh flower without any crease,
  Scarcely open suddenly withering;
Mute we stand by the work,
  Without knowing what this is.

How, from a night of great tribulation
  Shall come the blessed summer-day?
How shall we get heaven from great storms?
  We shall get to know after this.

While losing our dear friends
  In the long black night of the vale,
We long to see the morning coming
  We will get to know after this.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~