O foroedd o ddoethineb! Oedd yn y Duwdod mawr, Pan yn cyfranu ei gariad I bryfed gwael y llawr; A gwneuthur i'w drugaredd, A'i dostur maith ynghyd, I redeg megys afon Lifeiríol dros y byd. Duw, cariad yw ei hunan; B'le bynag rhedo'i fryd, Mae anfeidroldeb eang Yn cerdded trwyddo i gyd; Mewn gweithred o drugaredd Mae ef yn llawenhau; Ac yn faddeuwr pechod Yn cael ei alw mae. Rhyw ddyfnder maith o gariad, Lled, annherfynol hyd, A redodd megys diluw Diddiwedd dros y byd; Yn atteb dyfnder eithaf Trueni dynolryw; Can's dyfnder eilw ddyfnder Yn arfaeth hen fy Nuw. O! gariad heb ei gymmhar! A thyna'r testyn sy Yn Llanw holl ganiadau 'R angylaidd sanctaidd lu; Anfeidrol ras rhyfeddol! Pe tawai am dano ddyn, Fe seiniai'r fud greadigaeth Yn ddiau bob yr un. - - - - - O! foroedd o ddoethineb Oedd yn y Duwdod mawr, Pan fu'n cyfrannu ei gariad I dlodion gwael y llawr; A gwneuthur ei drugaredd, A'i faith dosturi 'nghyd I redeg megys afon Lifeiríol dros y byd. Rhyw ddyfnder maith o gariad, Lled, annherfynol hyd, A redodd megys diluw Diddiwedd dros y byd; Yn ateb dyfnder eithaf Trueni dynol-ryw; Can's dyfnder eilw ddyfnder Yn arfaeth hen fy Nuw. O! gariad heb ei gymar! A dyna'r testyn sy Yn llanw holl ganiadau Angylaidd sanctaidd lu; Anfeidrol ras! amdano Pe na foliannai ddyn, Clodforai'r bydoedd mudion Yn ddiau bob yr un. - - - - - O foroedd o ddoethineb, Oedd yn y Duwdod mawr, Pan y cyfranai ei gariad, I bryfaid gwael y llawr! A gwneuthur i'w drugaredd A'i dostur maith ynghyd, I redeg megis afon Lifeiriol dros y byd. 'Nol edrych ar ol edrych, O gwmpas i mi mae Rhyw fyrdd o ryfeddodau Newyddion yn parhau: Pan bwy'n rhyfeddu unpeth, Peth arall ddaw i'm mryd; O iachawdwriaeth rasol Rhyfeddol wyt i gyd! Ond y rhyfeddod fwya' I'r Tad ro'i ei Fab ei hun, Mynwesol Fab ei gariad, I wisgo natur dyn; Ond dyma ddarostyngiad, A dyma rodd mor fawr Na welir ei chyffelyb O eitha'r nef i lawr. O iachawdwriaeth gadarn! O iachawdwriaeth glir! 'Fu dyfais o'i chyffelyb Erioed ar fôr na thir; Fe ro'dd ei fywyd drosom, Beth all ef ballu mwy? Mae myrdd o drugareddau Difesur yn ei glwy. O ras didranc diderfyn, Trag'wyddol ei barhad! Y'nghlwyfau'r Oen fu farw Yn unig mae iachâd; Iachâd oddiwrth euogrwydd, Iachad o ofnau'r bedd, A chariad wedi ei wreiddio Ar sail tragwyddol hedd. Y clod, y nerth, yr enw, 'R anrhydedd, parch, a'r bri, F'o i'r Drindod mawr yn Undod, A'r Undod pur yn Dri; Ei glod ehedo allan Ei glod anfeidrol ef, Trwy ehangder annherfynol Mesurau maith y nef.William Williams 1717-91 Golwg ar Deyrnas Crist
Tonau [7676D]: gwelir: Angylion do(')ent yn gys(s)on Angylion ddônt yn gyson 'N ol edrych ar ol edrych |
Oh oceans of wisdom Were in the the great Godhead When distributing his love To base worms of the ground! And making its mercy to them, And its vast pity altogether, Run like a river Streaming across the world. God, he himself is love; Wherever the stream runs, There is a wide immeasurability Walking through it all; In an activity of mercy He is rejoicing; And as a forgiver of sin Getting called it is. Some vast depth of love, Wide, infinite extent, Which ran like a deluge Unending across the world; Responding to the extreme depth Of the misery of human kind; As deep calls to deep In the old scheme of God. O love without its equal! And behold the theme which Fills all the songs Of the holy angelic host; Immeasurable, amazing grace! If man were silent about it, The mute creation would sound Doubtless every one. - - - - - Oh oceans of wisdom Which was in the great Godhead, When it was distributing its love To the base poor of the earth! And making its mercy, And all its vast pity Run like a river Streaming across the world. Some vast depth of love, Wide, infinite extent, Which ran like a deluge Unending across the world; Responding to the extreme depth Of the misery of human kind; As deep calls to deep In the old scheme of God. O love without its equal! And behold the theme which Fills all the songs Of the holy angelic host; Immeasurable grace: about it If man would not extol The mute ones of the worlds would praise Doubtless every one. - - - - - O seas of wisdom, Which were in the great Trinity, When he shared his love, With base worms of the ground! And made his mercy An his vast pity together Run like a flowing River for the world. After looking and looking, Around me there are Some myriad of new Wonders continuing: Whenever I wonder at one thing, Another thing comes to my mind; O gracious salvation A wonder thou art altogether! But the greatest wonder For the Father to give his own Son, The beloved Son of his bosom, To wear the nature of man; But here is submission, And here a gift so great Not to be seen is its equal From the extremity of heaven to earth. O firm salvation! O bright salvation! There was such a plan Never on sea or land; He gave his life for us, What can he refuse henceforth? There are a myriad of immeasurable Mercies in his wound. From undying, endless grace, Eternally enduring! In the wounds of the Lamb who died Alone is there healing; Healing from guilt, Healing from fears of the grave, And love having rooted On the foundation of eternal peace. The praise, the strength, the name, The honour, reverence, and the acclaim, Be to the great Trinity in Unity, And the pure Unity in Three; His praise shall fly out His immeasurable praise, Throughout the infinite breadth Of the vast measures of heaven.tr. 2014,16 Richard B Gillion |
|