(Diwedd Da)
1,2,3,4,5,6,7; 1,3,4,5.
(Rhan I)
O fraint y gwr
sy'n duwiol fyw,
Caiff gyda Duw ymdeithio!
A phan i ben ei daith yr â,
O! 'r diwedd da fydd iddo.
Os ing newidia'i wyneb pryd
A'i liw yn nghyd wrth drengu;
O! 'r rhagor welir yn ei wedd,
Pan ddring o'r bedd i fyny.
Tra daliodd ffûn
ei anadl frau
Hyd angeu bu'n milwrio;
Ond pan i wydd ei Dduw yr â
O! 'r croeso da fydd iddo.
(Rhan II)
Rhyw ddrycin gafodd
drwy ei ddydd,
Nes yn y pridd noswylio;
Ond deffry, a phan gwyd i'r làn,
Mor deg fydd tranoeth iddo!
Pan ddeffry'r tafod heddyw sydd
Yn nghudd dan bwys y graian;
Fe dry ei anthem floesg
yn floedd,
Ar ben mynyddoedd Canaan.
Er gwneyd ei wely yn y gro
Caiff ddeffro i deyrnasu;
Ac O! pan ddelo'i draed yn rhydd,
Mor debyg fydd i'r Iesu.
Ei orchwyl yma yn y glỳn
Oedd marw beunydd, beunydd,
Ond fry yn llon gerbron ei Dduw
Ni bydd ond byw'n dragywydd.
liw :: wedd
y gwr :: y dyn
ddrycin :: ddryg-hin
- - - - -
("Da Was.")
Gwyn fyd y gwas fu'n ffyddlon fyw,
A chyda Duw'n ymdeithio;
Caiff ger ei fron,
ar ben y daith,
Byth wedi'i waith, orphwyso.
Rhyw stormydd gafodd yn ei ddydd,
Nes yn y pridd noswylio;
Ond deffry, a phan gwyd i'r lan,
Mor deg fydd tranoeth iddo!
Caiff beraidd ganu uwch y rhod,
'Rol bod dan
bwys y graian;
A thry ei anthem
floesg yn floedd
Ar ben mynyddoedd Canaan.
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855
Tôn [MS 8787]: Ferry (J Green's Psalmody 1751)
gwelir:
Rhan II - Rhyw ddrycin gafodd drwy ei ddydd
|
(A good End)
(Part 1)
O the privilege of the man
who is godly living,
He shall get with God to journey!
And when to the end of his travel he goes,
O what a good end there shall be for him!
If anguish shall harm his countenance
And his colour together on dying;
O the improvement to be seen in his face,
When he climbs up from the grave.
While he kept the gasp
of his fragile breath
Until death he was a soldier;
But when he goes to God's presence
O, the good welcome shall be his!
(Part 2)
Some foul weather he got
throughout his day,
Until in the soil spending the night;
But he shall awaken, and when he rises up,
How fair shall be the morrow for him!
When the tongue wakes, that today is
Hidden by the weight of the gravel,
The faltering anthem shall
turn into a shout,
On the summit of the mountains of Canaan.
Although making his bed in the shingle
He will get to awaken to reign;
And O, when his feet come free,
How similar to Jesus he shall be.
His task here in the vale
Was to die daily, daily,
But up cheerfully before his God
He will only be living eternally.
colour :: face
::
::
- - - - -
("Good Servant.")
Blessed is the servant who was faithful,
And with God journeying;
He will get in his presence,
at his journey's end,
Forever after his work, to rest.
Some storms he got in his day,
Until spending the night in the soil;
But awakening, and when rising up,
How fair will be the next day for him!
He will get sweetly to sing above the sky,
After being under
the weight of the gravel;
And his faltering anthem
will turn into a shout
On the summit of the mountains of Canaan.
tr. 2015,18 Richard B Gillion
|
|