O! Frenhin mawr tragwyddol cun, Wyt oll yn oll, wyt oll yn un; Rho imi wel'd dy hyfryd wedd - Ni cheisiaf fwy tu yma i'r bedd. Nef yw i'm henaid yn mhob man, Pan brofwyf Iesu mawr yn rhan; Ei weled Ef â golwg ffydd Dry'r dywell nos yn oleu ddydd. Boed imi dreulio'm dyddiau i gyd I edrych ar dy wyneb pryd: Difyru f'oes o awr i awr I garu fy Ngwaredwr mawr.Emynau ... yr Eglwys (Daniel Evans) 1883 [Mesur: MH 8888] gwelir: Dyma gyfarfod hyfryd iawn Mor hardd mor deg mor hyfryd yw Nef yw i'm henaid yn mhob man O n'allwn g'odi'm henaid gwàn |
Thou art all the same; O dear, great, eternal King, Grant me to see Thy lovely face, I will not seek more on this side of the grave. There is heaven to my soul in every place, When I experience great Jesus as a portion; To see Him with the sight of faith Turns the darkness of night into the light of day. My I spend all my days In looking on thy countenance: It will engage my age from hour to hour To love my great Deliverer.tr. 2016 Richard B Gillion |
|