O! fy Iesu, 'Mhriod anwyl, Cofia eiddil gwael, dilun, Sydd yn gŵyro bob munudyn, Sydd yn blino arno'i hun; Tro fy ngolwg at dy haeddiant, A'th drugaredd ryfedd, rad; Rho dangnefedd yn fy mynwes, Rho faddeuant yn dy waed. Anfon un pelydryn tirion, O dy orsedd ddisglaer fry, Nes bo'r dydd yn siriol wenu Ar ol noswaith dywyll ddu, A fy enaid yn cael myned, Fel aderyn bach o'r llawr, Ar adenydd cariad cynnes I dy fynwes, Iesu mawr. A fy enaid :: F'enaid innau I dy fynwes :: Fry i'th fynwes
Tonau [8787D]: |
O my Jesus, dear Spouse, Remember a feeble one, abject, ugly, Who is veering every moment, Who is wearying of himself; Turn my view to thy virtue, And thy wonderful, free mercy, Put peace in my breast, Put forgiveness in thy blood. Send one gentle ray, From thy shining throne above, Until the day smiles cheerfully After the dark, black night, And my soul may get to go, Like a little bird from the ground, On wings of warm love To thy breast, great Jesus. :: To thy breast :: Up to thy breast tr. 2013 Richard B Gillion |
|