O fy Arglwydd O fy Mhrynwr

(Crist yn bob peth)
O fy Arglwydd! O fy Mhrynwr!
  O fy Ngheidwad! O fy Nuw!
Ti, fy Iesu, yw fy nghwbl,
  Ar Dy haeddiant 'r wyf yn byw;
Ffrwyth Dy boen, a gwerth Dy aberth,
  Rhinwedd iawnol dwyfol waed,
Dyma wraidd fy holl orfoledd,
  Dyma'r graig sydd dàn fy nhraed.

Ti fy Mugail! Ti fy Mrenin!
  Ti fy Mhrïod! Ti fy Mrawd!
Ti fy Archoffeiriad grasol!
  Ti ymwisgaist yn fy nghnawd;
Ti sy'n byw i eiriol drosof,
  Ti fy unig noddfa yw;
Dyma sail fy iachawdwriaeth,
  Duw yn ddyn a dyn yn Dduw.
David Howell (Llawdden) 1831-1903

Tôn [8787D]: Moriah (Casgliad Madan 1760)

(Christ as everything)
O my Lord! O my Redeemer!
  O my Saviour! O my God!
Thou, my Jesus, art my all,
  On Thy merit I am living;
The fruit of Thy pain,
    and the worth of Thy sacrifice,
  The virtue of atoning divine blood,
Here is the root of all my rejoicing,
  Here is the rock that is under my feet.

Thou my Shepherd! Thou my King!
  Thou my Spouse! Thou my Brother!
Thou my gracious High Priest!
  Thou didst dress thyself in my flesh;
Thou who art living to intercede for me,
  Thou my only refuge art;
Here is the basis of my salvation,
  God as man and man as God.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~