O fy enaid, chwilia'n fanwl Am drysorau can'-mil gwell, Nag a fedd y greadigaeth; A'm canlyno i'r wlad bell: Am wirionedd yn fy ngwaelod, Ag a'm dalio i'r dydd a ddaw, Fel y gallwy'n hy' wynebu 'R hwn sy' a'r clorian yn ei law. Dyna'r dydd bydd sobr bwyso, Ar gyflyrau a beiau'r byd; Bernir yn y diwrnod hwnw Byw a meirw oll i gyd; O am grefydd yn ei sylwedd, Crefydd bery hyd y bedd, Crefydd ag a'm deil yn angeu, Uwch y ṭnau garw eu gwedd.Caniadau Y Cysegr 1866 (Digon ar gyfer y Farn) O! fy enaid, chwilia'n fanwl Am drysorau canmil gwell Nag a fedd y grëeadigaeth; A'm canlyno i'r wlad bell: Am wirionedd yn fy nghalon, Ag a'm dalio'r dydd a ddaw, Iesu'n Briod digyfnewid, Iesu'n noddfa gadarn draw. Dyna'r dydd o gywir bwyso, Ar gyflyrau pawb o'r byd; Bernir yn y diwrnod hwnnw Fyw a meirw oll i gyd; O! am grefydd yn ei sylwedd, Ag a bery hyd y bedd, Crefydd ag a'm deil yn angau, Uwch y tonnau garwa'u gwedd.1: Dafydd William 1720-94 2: Anhysbys (Llyfr Emynau a Thonau 1929) Tôn [8787D]: Bavaria (F Mendelssohn-Bartholdy 1809-47) |
O my soul, seek carefully For treasures a hundred thousand times better, Than the creation possesses; And that will follow me to the distant land: For truth in my base, And that will pay me in the day to come, Thus I may boldy face Him who has the scales in his hand. This is the day when there will be serious weighing, On the conditions and faults of the world; To be judged in that day are Living and dead all together; O for belief in his substance, Belief that will endure until the grave, Belief that will hold me in death, Above the waves of rough appearance. (Sufficient for the Judgment) O my soul, seek carefully For trearures a hundred thousand time better, Than the creation possesses; And that will follow me to the distant land: For truth in my heart, Which will pay me in the day to come, Jesus an unchanging Spouse, Jesus a firm refuge yonder. That is the day when of serious weighing, On the scales, of everyone of the world; To be judged on that day are Living and dead all together; O for belief in his substance, That will endure until the grave, Belief that will hold me in death, Above the waves of roughest appearance.tr. 2016 Richard B Gillion |
|