O fy enaid gorfoledda, Er mai tristwch sy yma'n llawn; Edrych dros y bryniau mawrion, I'r ardaloedd hyfryd iawn: Uwch tymmhorol Feddiant mae fy nhrysor drud. Gwel tu hwnt i fyrdd o oesoedd, Gwel hapusrwydd maith y nef; Edrych ddeng mil etto 'mhellach, Digyfnewid byth yw ef: Tragwyddoldeb, Hwn sy'n eiddo i mi fy hun. 'Rwyf yn edrych ar y cwbl Ag sydd yn y bydoedd draw; Pethau pell yn bethau agos, Pethau fu yn bethau ddaw: Môr heb waelod O bleserau ddaeth i'm rhan. Nid oes terfyn ar fy ngobaith, Cyrraedd mae yn mlaen o hyd; Gyda'r Duwdod mae'n cydredeg, Dyddiau'r ddau sydd un ynghyd: Annherfynol Ydyw fy llawenydd mwy. Anfeidroldeb maith ei hunan Sydd yn awr yn eiddof fi; Yn rhad y cadd ei roddi i mi Ar fynyddoedd Calfari: Tyr'd yn fuan, Hyfryd haf o berffaith hedd.
Tonau [878747]: |
O my soul rejoice, Although there is sadness here fully; Look across the great hills, To the very lovely regions: Above a seasonal Possession is my costly treasure. See beyond a myriad ages, See the vast happiness of heaven; Look a thousand times yet further, Forever unchanging it is: Eternity, That is my own possession. I am looking at the whole Which is in the worlds yonder; Distant things in near things, Things that were in things to come: A bottomless sea O pleasures that came to my lot. There is no ending to my hope, It always reaches forwards; With the Godhead it runs together, The days of the two are one together: Unending Is my joy evermore. Vast immeasurability itself Is now belonging to me; Freely it was given to me On the mountains of Calvary: Come soon, Delightful summer of perfect peace. tr. 2018 Richard B Gillion |
|