O Gariad rhad gwynfyd y dydd

(Emyn, Allegiad.)
O Gariad rhad, gwynfyd y dydd,
  Yr enw yr Iachawdwr mawr,
Pan redaist at bechadur prudd,
  A nefol wledd i'r ddaear lawr.

Ni'th anwyd di o neb rhyw ddyn,
  Nac o un gwrthddrych îs y nef;
Dy darddiad sydd o Dduw ei hun,
  Ac ynot mae ei ddelw Ef.

Megyd y drych i'r gwrthddrych gwiw,
  Lygad yn llygad oll yn oll;
Ei gas gwrthodi'n llwyr bob rhyw,
  A gâr a geri di'n ddi-goll.

Yn mhob dewisol ddynol fron
  Argreffi delw Duw ei hun,
Gan beri i ryw nefoedd lon,
  Yn oleu d'w'nu 'n nghalon dyn.

Anghofia y cardotyn prudd
  Ei adfyd dan d'adenydd dy;
Clyw! 'r gweddwon a'r amddifaid sydd
  Yn caru'n llon a'u
      dagrau'n lli'.

Pe cynghadeddwn eiriau ffraeth
  Uwchlaw tafodiaith yr holl fyd;
Neu'n fwy egnïol nag y gwnaeth
  Y llu angylaidd oll yn nghyd,

Ac heb fod genyf gariad caeth,
  I'm bron yn enyn megys tân;
Er medru d'weyd ymadrodd doeth,
  Rhyw sain anghyson fyddai 'nghân.

Llwyr ofer mwy
    pob llafur mawr
  Heb genyf gariad gydag ef;
Pe rho'wn fy nghorph i'w losgi'n awr,
  Pe treiglwn greigiau
      drwy ffydd gref.

Cariad a wna i'r gobaith prudd,
  Mewn gyrfa hirfaith, ymgryfhau;
O'r sŵn i'r sylwedd
    dwg ein ffydd,
  I'r galon o'r dych'mygion gau.

Bydd gobaith dyfal a ffydd gref,
  Ar fyr yn cyd-ddiflanu'n ddim, -
Un yn fwynhad o fewn y nef,
  A'r llall yn olwg amlwg im'.

Ond ti fydd pryd na byddont hwy,
  Yn lloni bron pererin prudd;
Y wlad well ni ddangosant mwy,
  A fu'n hir ddysgwyl yn ei ddydd.

Dysgeiria'th belydr di'r un wedd
  Yn angeu, ac ni
      laesa'th gamp;
Ymorfoleddi ar y bedd,
  A fflam ddilygredd yn dy lamp.

Yr Oen, a'i wraig,
    wrth garu 'nghyd,
  Goleuant hwy dy lamp di lyth,
I orphwys mewn didrangc wyn fyd,
  Yn gyflawn o ddifyrwch fyth.
Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841

[Mesur: MH 8888]

(A Hymn, an Allegory.)
O free Love, blessed is the day,
  O name of the great Saviour,
When thou didst run to a sad sinner,
  With a heavenly feast to the earth below.

Thou wast not born of any man,
  Nor of any object under heaven;
Thy source is from God himself,
  And in thee is his image.

Like the mirror to the worthy object,
  Eye to eye, all in all;
The detestable thou dost reject utterly,
  Whoever loves thou dost love unfailingly.

In every chosen human breast
  Thou dost engrave God's own image,
By causing some heavenly joy,
  As light to shine in the heart of man.

The sad beggar forgets
  His adversity under thy wings;
Hear! the widows and the orphans are
  Loving cheerfully with their
      tears as a flood.

If I were to compose witty words
  Above the dialect of the whole world;
Or more vigorously than did
  All the angelic host altogether.

And without my having any captive love,
  To my breast igniting like a fire;
In order to be able to tell a wise report,
  Some inconstant sound would be my song.

Completely vain henceforth
    every great labour
  Without my having love with it;
If I were to give my body to be burned now,
  If I were to trundle rocks
      through strong faith.

Love would make the sad hope,
  In a long, broad course, take strength;
From the sound to the substance
    bring our faith,
  To the heart from the empty imaginations.

Devoted hope and strong faith shall be
  Shortly vanishing together to nothing, -
One in enjoyment within heaven,
  And the other in obvious sight to me.

But thou shalt be, when they are not,
  Cheering the breast of a sad pilgrim;
The better land they shall show no more,
  Which was long expected in its day.

Shine thou thy rays in the same way
  In death, and do not
      slacken your triumph;
Thou shalt take delight over the grace,
  With an incorruptible flame in thy lamp.

The Lamb, and his bride,
    while loving each other,
  Shall light up thy lamp unfailingly,
To lie in undying blessedness,
  Full of pleasure forever.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~