O gollwng fi dyneraf fam

1,(2,3),4,5.

(Marwolaeth Baban)
O gollwng fi, dyneraf fam,
  Mae gorchudd angau dros fy ngrudd;
Na foed i'th galon bur ddinam
  O'm hachos mwy alaru'n brydd:
Er maint fy nghur, gobenydd gaf
  Esmwythach na dy ddwyfron di;
Mewn melys hedd gorphwyso wnaf
  Yn mynwes Naf - O gollwng fi.

O gollwng fi - pererin wyf
  A ddaeth i weled byd o wae;
Wrth wenu arno, rhoes im' glwyf,
  A chwerwi fy nysgleidiau mae.
Er gwaetha' 'r byd, gobenydd gaf,
  Esmwythach na dy fronau di;
Mi wela' 'n awr yn mwynes Naf
  Ystafell geld - O gollwng fi.

O gollwng fi, mae lleni'r nôs,
  A'r holl gysgodau'n
      gadaw'r llawr,
Canfyddaf dros y bryniau'n dlos
  Wawr dirion trag'wyddoldeb mawr.
Pinaclau heirdd
    Caersalem sydd
  Yn d'od i'm golwg yn ddiri';
Caiff f'enaid fyn'd
    o'i rwymau'n rhydd,
  Fe ddaeth yr awr - O gollwng fi.

O gollwng fi, mae teulu'r nef
  Yn dysgwyl wrthyf dd'od i'r ŵyl;
Fy mainc a drefnwyd ganddo Ef,
  Mae tannau'r delyn oll mewn hwyl:
Mae'r bwrdd yn llawn danteithion pêr,
  Y gwestwyr mewn addurnol fri,
A'r lampau fel
    dysgleirywch ser
  Yn harddu'r llys - O gollwng fi.

O gollwng fi, mae cerbyd gwych
  O'r nefoedd wedi d'od i'm hol;
Dy ddagrau gloywon ymaith sych,
  Na ŵyla fynyd ar fy ol:
Cei dithau'n fuan rodio'r glỳn,
  A chroesi gorwyllt
      rym y lli';
Cawn fod yn nghyd ar Seion fryn:
  Bydd iach hyd hyn, a gollwng fi.
J H Hughes (Ieuan o Lleyn) 1814-93

[Mesur: 8888D]

(The Death of a Baby)
O release me, tenderest mother!
  The cover of death is over my cradle;
Do not let thy pure, faultless heart be
  Because of me lamenting sadly:
Despite my stroke, a pillow I have
  Softer than thy breasts;
In sweet peace rest I shall
  In the bosom of the Lord - O release me!

O release me, a pilgrim am I
  Who came to see a world of woe;
On smiling on it, it gave me a wound,
  And making my dishes bitter it is.
Despite the world, a pillow I have,
  Smoother than thy breasts;
I see now in my Master's bosom
  A cosy room - O release me!

O release me, the curtains of night
  And all the shadows are
      leaving the earth,
I perceive over the hills prettily
  The tender dawn of great eternity.
The beautiful pinnacles of
    Jerusalem which are
  Coming into my view without number;
My soul shall get to go
    free from its bonds,
  It is coming now - O release me.

O release me! The family of heaven is
  Waiting for me to come to the festival;
My bench was arranged by Him,
  The strings of the harp are all in tune:
The table is full of sweet delicacies,
  The guests in decorous renown,
And the lamps like
    brilliantly shining stars
  Beautifying the court - O release me!

O release me! There is a brilliant chariot
  From heaven having come after me;
Thy shining tears dry away,
  Nor weep a minute after me:
Thou wilt get soon to walk the glen,
  And welcome the over-wild
      force of the stream;
We shall get to be together on Zion hill:
  Be well until then, and release me!
tr. 2015,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~