O gwynfyd Abra'm hyfryd sy'n nhir y bywyd draw, Dafydd frenhinol brophwyd sy' â thelyn yn ei law; A'r dorth fawr o ferthyron mewn gynau gwynion hardd, Can mil yn fwy dedwyddol nag Adda yn yr ardd. Mae Noa, Job, a Daniel, tu draw i ddinas gwae, Fe ddarfu dyddiau'u galar, maent hwy yn llawenhau Ymhlith y dorf aneirif, rhifedi gwith y ma's, Sy'n canu i'r Oen a laddwyd am waredigol ras. Manasse a Magdalen sydd yno oll yn un, Yn seinio'r nefol anthem o fawl i Fab y dyn; Mae Esay a Jeremia i'r Oen yn rhoddi'r clod, Ioan sy'n canmol cariad ddechreuodd cyn ei fod. Mae Moesen fwyn ac Eli fry yn rhyfeddu Duw, Mae Enoc ac Elias yn gwel'd ei wyneb gwiw; Mae Paul a Pheder yno, O wynfydedig saint! Gwyn fyd f'ai yn y bywyd yn cyd-feddiannu'r fraint. Gwyn fyd y rhai ddihangodd o gystudd mawr y byd, Fy enaid sydd yn gruddfan wrth wel'd y dyddiau cyd; Caf gyflawn fuddugoliaeth ar bechod a phob pla, A byw byth yn y teulu sy'n moli'm Iesu da.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo 1775 [Mesur: 13.13.13.13 / 7676D] gwelir: 'Nôl treuliwyf yn y bywyd |
O the deightful blessedness of Abraham who is in the land of life yonder, David, the kingly prophet who is with a harp in his hand; And the great throng of martyrs in beautiful, white gowns, A hundred thousand times more happy than Adam in the garden. Noah, Job and Daniel are beyond the city of woe, The days of their lamentation passed away, they are rejoicing Amongst the innumerable throng, numbers of the dew of the field, Who are singing to the Lamb who was slain for delivering grace. Manasseh and Magdalen are there all as one, Sounding the heavenly anthem of praise to the Son of man; Isaiah and Jeremiah are to the Lamb giving acclaim, John is extolling the love which began before he was. Dear Moses and Eli are above wondering at God, Enoch and Elijah are are seeing his worthy face; Paul and Peter there, O blessed saints! Blessed would I be in the life sharing the privilege. Blessed are those who escaped from the great tribulation of the world, My soul is groaning on seeing the days so long; I shall get full victory over sin and every plague, And live forever in the family which is praising good Jesus.tr. 2016 Richard B Gillion |
|