O! heda, efengyl drawgwyddol, Ar gyflym adenydd y wawr, Nes cilio o'r noson gaddugol, A'r fagddu orchuddia y llawr; Cyfoded gogoniant yr Arglwydd Ar Seion, preswylfa Duw Iôr, Nes llanwer y ddae'r â sancteiddrwydd, A "throi llïosowgrwydd y môr!" Pwy yw y rhai hyn a ehedant I deml Jeriwsalem wiw? Fel gwỳn golomenod dychwelant I harddu ffenestri fy Nuw: Cenhedloedd o Aipht eu caethiwed Sy'n dyfod i weled y wawr; Brenhinoedd offrymant eu teyrnged Wrth orsedd Emmanuel mawr. Yn mynydd yr Arglwydd y gwelir Dylifiad y bobloedd o bell, A sŵn eu Hosanna a glywir Yn esgyn i'r Ganaan sydd well; Fel llef dyfroedd lawer yn tòri Bydd moliant Emmaniwel mawr, Y ddaear yn esgyn i fyny, A'r nefoedd yn disgyn i lawr.
Tonau [9898D]: |
O fly, eternal gospel! On the fast wings of the dawn, Until retreating from the evening of darkness, And the extreme gloom covers the ground; Let the glory of the Lord rise Upon Zion, the residence of God the Lord, Until the earth is filled with holiness, And "the multitude of the sea turn!" Who are these who fly To the temple of worthy Jerusalem? Like white doves they return To beautify the windows of my God: Nations from the Egypt of their captivity Who are coming to see the dawn; Kings offer their tribute At the throne of great Emmanuel. On the mountain of the Lord shall be seen The outpouring of the peoples from afar, And the sound of their Hosanna shall be heard Ascending to the Canaan that is better; Like the cry of many waters breaking Shall be the praise of great Emmanuel, The earth ascending up, And the heavens descending down. tr. 2018 Richard B Gillion |
|