O! henffych, foreuddydd gogoned, Mae'n hoff gennym weled dy wawr Yn coffa dyfodiad ein Ceidwad O'i nefol oleu-wlad i lawr, Fel seren ddisgleirwedd y dwyrain Oleugain i'n harwain yn hawdd At breseb ein Prynwr Cyssegr-lān, Y Baban anniddan di nawdd. Mae'r nos wedi ffoi dan y llenni, Mae'r wawr wedi torri ar ein tir, Mae'r adar yn canu'n yr wybren, Fe gyfyd in' Haulwen cyn hir; Daw Haulwen Bendigaid Cyfiawnder I'r golwg yn amser ein Naf, A'i esgyll a wasgar drwy'r hollfyd Falm iechyd o'u clefyd i'r claf. Deffrown, ynte, bellach, a gwyliwn, Cyfodwn, na hunwn yn hwy; Na chysgwn, fel eraill, ar liniau Pleserau na moethau byth mwy: Ag arfau'r goleuni ymdaclwn, Fel milwŷr, a pharchwn ein ffydd, A gwisgwn sancteiddrwydd a chariad, Hardd wisgiad a dillad y dydd.Y Flwyddyn Eglwysig (Morris Williams) 1843 [Mesur: 9898D] |
O hail, thou morn so glorious! It is delightful for us to see thy dawn Reminding of the coming of our Saviour Down from his heavenly land of light, Like the radiant star of the east Brightly elegant to lead us beautifully To the Sanctuary of the manger of our Redeemer, The comfortless, defenceless Baby. The night has fled under curtains, The dawn has broken on our land, The birds are singing in the sky, Our sunshine shall rise before long; The Sunshine of Blessed Righteousness shall come To view in the time of our Master, With its wings spread throughout the universe The balm of healing from their disease for the sick. Let us awake, then, henceforth, and watch, Let us arise, nor sleep any longer; Nor slumber, like others on the knees Of pleasures, nor luxuries any more: With the weapons of light let us equip ourselves, Like soldiers, and let us respect our faith, And let us wear holiness and love, The beautiful dress and clothing of the day. |
|