O iachawdwriaeth gadarn
O iechydwriaeth gadarn

O iachawdwriaeth gadarn,
  O iachawdwriaeth glir!
'Fu dyfais o'i chyffelyb
  Erioed ar fôr na thir!
Fe rodd ei fywyd drosom, 
  Beth all ef ballu mwy? 
Mae myrdd o drugareddau
  Difesur yn ei glwy'.

O ras didrai diderfyn,
  Tragwyddol ei barhâd!
Yn nghlwyfau'r Oen fu farw,
  Yn unig mae iachâd;
Iachâd oddiwrth euogrwydd,
  Iachâd o ofnau'r bedd; 
A chariad wedi ei wreiddio
  Ar sail tragwyddol hedd.

'Nol edrych ar ol edrych,
  O gwmpas imi mae
Rhyw fyrdd o ryfeddodau
  Newyddion yn parhau;
Pan b'wy'n rhyfeddu unpeth,
  Peth arall ddaw i 'mryd -
O! iachawdwriaeth rasol!
  Rhyfeddol wyt i gyd!
Fe rodd ei :: Rhoes Iesu'i
didrai :: didranc

- - - - -
1,(2),3.

O! Iechydwriaeth gadarn,
  O! Iechydwriaeth glir!
'Fu dyfais o'i chyffelyb
  Erioed ar fôr na thir!
Mae yma ryw ddirgelion,
  Rhy ddyrys ŷnt i ddyn,
Ac nid oes all eu datrys
  Ond Duwodd mawr ei hun.

'Does unpeth ennyn gariad
  Yn fflam angerddol gref,
Addewid neu orchymyn,
  Fel ei ddioddefaint ef;
pan roes ei fywyd drosom
  Beth all ef ballu mwy?
Mae myrdd o drugareddau
  Difesur yn ei glwy'.

O ras didrai diderfyn,
  Tragwyddol ei barhâd!
Yn nghlwyfau'r Oen fu farw,
  Yn unig mae iachâd;
Iachâd oddiwrth euogrwydd,
  Iachâd o ofnau'r bedd;
A chariad wedi ei wreiddio
  Ar sail tragwyddol hedd.
William Williams 1717-91
Bywyd a marwolaeth Theomemphus 1764

Tonau [7676D]:
Aurelia (Samuel S Wesley 1810-76)
  Bryn-Llwyn (Mary B Roberts)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Judgment Day (<1835)
Meirionydd (William Lloyd 1786-1852)
Missionary (Lowell Mason 1792-1872)
Penlan (David Jenkins 1848-1915)
Rhyddid (alaw Gymreig)
Salm 130 (Salmydd Ffrengig 1539)
Via Crucis (E T Davies 1878-1969)

gwelir:
  Mae'r ffynnon yn agored
  Mawr yw dirgelwch duwioldeb
  'N ol edrych ar ol edrych
  O Ysbryd/Yspryd pur nefolaidd

O firm salvation,
  O clear salvation!
There was such a scheme
  Never on sea or land!
He gave his life for us,
  What can he refuse henceforth?
There is a myriad of immeasurable
  Mercies in his wound.

O unebbing, unending grace,
  Of eternal endurance!
In the wounds of the Lamb who died,
  Alone is healing;
Healing from guilt,
  Healing from fears of the grave;
And love which is rooted
  On the basis of eternal peace.

Looking back after looking,
  Around me there is
Some myriad of new
  Wonders continuing;
Whenever I wonder at anything,
  Another thing comes to my mind -
O gracious salvation!
  Thou art all wonderful!
He gave his :: Jesus gave his
unebbing :: deathless

- - - - -
 

O firm salvation,
  O clear salvation!
There was such a scheme
  Never on sea or land!
There are some secrets here,
  Too knotty they are for man,
And there is no-one who can unravel them
  But the great Godhead himself.

There is nothing that kindles love
  Into a strong, ardent flame,
Promise nor commandment,
  Like his own suffering;
When he gave his life for us
  What can he refuse henceforth? 
There is a myriad of immeasurable
  Mercies in his wound.

O unebbing, unending grace,
  Of eternal endurance!
In the wounds of the Lamb who died,
  Alone is healing;
Healing from guilt,
  Healing from fears of the grave;
And love which is rooted
  On the basis of eternal peace.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~