O iachawdwriaeth hawddgar

(Goludoedd Crist)
O iachawdwriaeth hawddgar,
  O iachawdwriaeth gref!
A ddaeth o'r nef i'r ddaear,
  I'n dwyn o'r ddae'r i'r nef!
Yr Iesu pur a glwyfwyd,
  Er gwir iachâd i'n briw;
Fe'i profwyd, fe'i perffeithiwyd,
  Yn fythol Feddyg gwiw.

Awn ato dan ein clwyfau,
  Ei glwyfau a'n iachâ;
Awn ato dan ein beichiau,
  Ei wendid a'n cryfhâ:
Awn, awn,
    dan farn marwolaeth,
  Ei angeu rydd in' fyw;
Mae'n awdwr iachawdwriaeth,
  Iachawdwr cyflawn yw.

Awn ato Ef am gymod,
  Am lawn faddeuant rhad;
Am rym yn erbyn pechod,
  Am sanctaidd wir lanhâd;
Awn ato yn ddibryder
  Am nerth i ddwyn y groes,
Awn ato Ef mewn hyder
  Tan bob cystuddiol loes.
Thomas Jones 1756-1820

Tôn [7676D]: Aurelia (Samuel S Wesley 1810-76)

(The Riches of Christ)
O beautiful salvation,
  O strong salvation!
That came from heaven to the earth!
  To bring us from the earth to heaven!
The pure Jesus was wounded,
  Truly to heal our wound;
He was tested, he was perfected,
  As an everlasting worthy Physician.

Let us go to him under our wounds,
  His wounds heal us;
Let us go to him under our burdens,
  His weakness strengthens us:
Let us go, let us go,
    under the judgment of death,
  His death sets us free;
He is an author of salvation,
  A full Saviour he is.

Let us go to him for reconciliation,
  For full, free forgiveness;
For power against sin,
  For holy, true, cleansing;
Let us go to him without fear
  For strength to bear the cross,
Let us go to him in confidence
  Under every afflicting anguish.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~