O Iesu byw/gwiw Iachawdwr byd

1,2,3,4,(5),6;  1,2,(3),6.
(Ymestyn at y pethau o'r tu blaen)
O Iesu byw! Iachawdwr byd,
Dŵg fi yn glau, i'th fynwes glŷd,
  'Gael prawf o'th gariad cu,
Sydd well na'r gwîn,
    i'm henaid gwàn,
Am hyn 'r wy'n daer
    am gael d'od dàn
  Dy dirion aden di.

Dy gariad dwys yn f'enaid dôd,
Ac ynddo fyth gâd imi fôd,
  Yn nofio tua'r nef,
Nes gado'n deg yr anial dir,
A glànio o fewn i Salem bur
  Duw gwrando ar fy llef.

Rhyfeddol rin, arfaethol ras,
I'm Iesu mwyn fy nwyn i maes
  O'r dwfn bydew pridd;
Dros f'enaid bach dyoddefodd boen,
Gan roddi iawn i'm hanwyl Ion;
  Ce's innau fyn'd yn rhydd.

'Rwy'n nawr yn dod o'r Aiphtiaidd dir,
Trwy fôr o waed fy Iesu'n wir,
  Tu a'r etifeddiaeth wiw:
Trafaelu wnes, trafaelu wnaf,
Nes im' gael nyth ynghôl fy Naf,
  Tragwyddol i mi fyw.

Wel f'enaid dos yn enw Duw,
Gan sathru croes uffernol griw;
  Er maint eu llid
      a'u brad:
Ar fyr i'r llawr, mi gaf yn ll,
Bob gelyn cas sy'm henaid cu,
  Trwy rinwedd gwych y gwa'd.

O wynfydedig ddedwydd awr,
Ddysgleirwen wir, O hyfryd wawr!
  Caf esgyn uwch y nen:
Gorphwysfa lân, trag'wyddol wledd,
Gaf fi fwynhau mewn dinas hedd:
  Boed hyn ar frys, Amen.
Iesu byw :: Iesu gwiw
am gael d'od dàn :: am ddyfod dan
A glànio o fewn :: A myn'd i mewn
Duw gwrando ar fy llef :: O'm gofid, ac o'm gwae

William Williams 1717-91

Tonau [886D]:
Broadmead (<1811)
Chapel Royal (William Boyce 1710-79)
Drayton (<1875)
Henfford (alaw Ellynig)
Howden (Arthur H Brown 1830-1926)
Leach (<1811)
Llanelli (J Ambrose Lloyd 1815-74)

gwelir:
  Fe adgyfododd Brenin hedd
  Mae'r pyrth yn agor dyma'r dydd

(Reaching out to things that are in front)
O living Jesus, Saviour of the world,
Bring me quickly, to thy cosy bosom,
  To get and experience of thy dear love,
Which is better than the wine,
    to my weak soul,
For this I am insistent
    about getting to come under
  Thy tender wings.

Thy intense love come into my soul,
And in it forever let me be,
  Swimming towards heaven,
Until leaving fairly the desert land,
And landing within pure Salem
  God listen to my cry.

Wonderful merit, intentional grace,
To my gentle Jesus bring me out
  Of the deep pit of soil;
For my little soul he suffered pain,
While giving satisfaction to my dear Lord;
  Whereas I got to go free.

I am no coming from the Egyptian land,
Through the sea of the blood of Jesus truly,
  Towards the worthy inheritance:
Travel I did, travel I shall,
Until i reach a nest in my Master's house,
  Eternally for me to live.

Well, my soul, go in the name of God,
While trampling across a hellish crew;
  Despite the extent of their wrath
      and their treachery:
Shortly I shall bring down as a host,
Every detestable enemy my dear soul has,
  Through the brilliant merit of the blood.

O blessed happy hour,
Truly brilliant, O delightful hour!
  I get to ascend above the sky:
A holy resting-place, an eternal feast,
I get to enjoy in a city of peace:
  May this be soon, Amen.
living Jesus :: worthy Jesus
about getting to come under :: about coming under
And landing within :: And going into
God listen to my cry :: From my grief, and from my woe

tr. 2019,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~