O Iesu clyw fy nghri

(Ochneidio yn llwythog)
O Iesu clyw fy nghri,
  Och'neidio'n llwythog 'rwyf;
Rhag suddo lawr i uffern ddû,
  Iachâ fy nwfwn glwyf.

Dod i bechadur gwael
  Dy nabod, Iesu gwiw;
A boed i ti mewn cariad hael
  Roi i droseddwr fyw.

Datguddia d'allu mawr
  I achub f'enaid i;
A gâd im' brofi ar y llawr
  Rinweddau'th gariad cu.

O dwg fy enaid caeth
  O'i holl gadwynau'n rhydd:
A chanu fydd fy hyfryd waith
  Dros faith dragwyddol ddydd.
Diferion y Cysegr 1807

Tonau [MB 6686]:
Dole (John T Rees 1857-1949)
St Bride / St Bride's (Samuel Howard 1710-82)

gwelir: Golch fi oddiwrth fy mriw

(Groaning being burdened)
O Jesus, hear my cry,
  Groaning being burdened I am;
Lest I sink down to black hell,
  Heal my deep wound.

May it come to a poor sinner
  To know thee, worthy Jesus;
And may thou in generous love
  Grant a transgressor to live.

Reveal thy great power
  To save my soul;
And let me experience on earth below
  The merits of thy dear love.

O bring my captive soul
  Free from all its chains:
And to sing shall be my delightful work
  For a vast eternal day.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~