O Iesu Ffrind cystuddiol rai
O Iesu Ffrynd cystuddiol rai

1,2;  1,3.
("O! aros gyda mi")
O! Iesu, Ffrind cystuddiol rai,
  Un tirion iawn wyt Ti;
Mae'n hwyr, a'r dydd yn darfod bron,
  O! aros gyda mi.

Ymdeithio'r wyf mewn anial wlad,
  Rho im dy gwmni cu;
Mae haul fy nydd ar fachlud, bron,
  O! aros gyda mi.

Mewn tywyll nos ac anial le,
  Gofidiau o bob rhyw,
Fy seren fore yw Efe,
  A Haul fy enaid yw.
Thomas William 1761-1844

Tonau [MC 8686]:
    Bangor (alaw Gymreig)
    Martyrs (Psalmydd Ysgotaidd)
    St Mary (Salmydd E Prys 1621)
    Tabernacl (W Emlyn Jones 1841-1914)

("Oh, stay with me!")
O Jesus, Friend of the afflicted,
  One very gentle art Thou;
It is late, and the day is almost gone,
  Oh, stay with me!

I am journeying in a desert land,
  Give me thy dear company;
The sun of my day is about to set, almost,
  Oh, stay with me!

In the darkness of night and a desert place,
  Worries of every kind,
My morning star is He,
  And the Sun of my soul he is.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~