O Iesu gwiw gwyn fyd a brofo'th Ddawn

1,2,(3).
(Melysder cariad a chymdeithas Crist)
O Iesu gwiw,
    gwyn fyd a brofo'th ddawn,
A'th gariad pur,
    yn felys nerthol iawn;
  Digonedd wyt
      i hwn, tra ynddo chwyth,
  Nid oes i'w gael,
      na'i geisio'n rhagor byth.

Hardd Iesu, wyt
    hyfrydwch nefol lu;
Mor bêr i'r glust
    yw sain dy enw cu!
  I'r genau mae
      fel mêl, yn felys bur,
  Fel nefol wîn
      i'r galon dan ei chur.

Am danat, Iesu,
    'n fynych mae fy nghŵyn!
Pa bryd y câf
    dy lon ymweliad mwyn?
  Pa bryd y gwnai
      fi'n llawen â dy wedd?
  Pa bryd y câf
      fy llenwi o dy hedd?
Thomas Jones 1756-1820

Tonau [10.10.10.10]:
Deptford (<1875)
Erfyniad (alaw Gymreig)
Gibeon (Samuel Wesley 1691-1739)
Upton (<1829)

gwelir:
'Does eisiau'n bod nac ofn na chlais na chlwy'
Gwaith gruddfan sydd gan bwys euogrwydd du

(The sweetness of the love and fellowship of Christ)
O worthy Jesus,
    blessed is he who experiences thy gift,
And thy pure love,
    very strongly sweet;
  Sufficient thou art
      to him, while he has breath in him,
  There is nothing else to get,
      nor ever anything more to seek.

Beautiful Jesus, thou art
    the delight of a heavenly host;
How sweet to the ear
    is the sound of thy dear name!
  To the mouth thou art
      like honey, purely sweet,
  Like heavenly wine
      to the heart under its wound.

About thee, Jesus,
    often is my complaint!
When may I get
    thy gentle, cheerful visit?
  When wilt thou make
      me joyful with thy countenance?
  When may I get
      filled with thy peace?
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~